Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghyd-destun Addysg yng Nghymru - TAOR

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cwrs dwy awr (gellir teilwra hyd cwrs ar gyfer anghenion penodol y coleg)

Gwnewch gais
×

Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghyd-destun Addysg yng Nghymru - TAOR

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r hyfforddiant yn gyfle i wella dealltwriaeth unigolion o agweddau ehangach sy'n gysylltiedig ag iaith a diwylliant.

Mae'n rhoi'r cyfle iddynt gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac i archwilio eu hymateb eu hunain i faterion iaith. Mae'n bosib i unigolion wella eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a stereoteipio, a rhoddir sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith.

Yn ogystal, gellir rhoi diweddariad o sefyllfa'r Gymraeg o ran polisïau a threfniadau ansawdd presennol mewn addysg ar lefel leol a chenedlaethol.

Gofynion mynediad

Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer cyrsiau TAOR mewn addysg ôl-orfodol. Mae'r hyfforddiant yn addas i siaradwyr Cymraeg a di- Gymraeg.

Cyflwyniad

Bydd pob dysgwr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn:

  • Casglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac i archwilio eu hymateb eu hunain i faterion iaith.
  • Gwella eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a stereoteipio, a rhoddir sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith.
  • Derbyn diweddariad o sefyllfa'r Gymraeg o ran polisïau a threfniadau ansawdd (Estyn) presennol mewn addysg ar lefel leol (cynlluniau strategol y colegau) a chenedlaethol (e.e. Cymraeg 2050; tuag at Miliwn o Siaradwyr).

Asesiad

Ddim yn berthnasol.

Dilyniant

Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.

Mwy o wybodaeth

Lefel: N/A

Dwyieithog:

Cyflwynir y cwrs hwn yn ddwyieithog.