Cynllun Mentora

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyd at 14 awr o gyswllt â thiwtor Sgiliaith, gan gynnwys mentora un i un, mentora mewn grwpiau, gweminarau a chefnogaeth gan gymheiriaid.

Gwnewch gais
×

Cynllun Mentora

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu real drwy gynnig arweiniad a chefnogaeth iddynt i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd gyda dysgwyr yn y dosbarth a/neu yn gweithle.

Gofynion mynediad

Anelir y cynllun at diwtoriaid ac aseswyr yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau. Mae’n addas i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.

Cyflwyniad

Mae'r cynllun wedi ei gynllunio i gefnogi ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu ac asesu real drwy:

  • Gynnig arweiniad i gefnogi ymarferwyr wrth fewnosod y Gymraeg/ dwyieithrwydd gyda dysgwyr yn y dosbarth a/neu yn y gweithle;
  • Amlinellu'r angen i ddatblygu'r ymarfer o fewnosod y Gymraeg/ dwyieithrwydd mewn ffordd sy'n naturiol a chytbwys;
  • Trafod methodoleg i ddatblygu technegau gwahanol wrth fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd;
  • Cefnogi ymarferwyr i asesu eu cryfderau a'u gwendidau eu hunain mewn perthynas â mewnosod y Gymraeg/ dwyieithrwydd;
  • Cynnig cyfle i rwydweithio gydag ymarferwyr eraill yng Nghymru a bod yn rhan o gymuned ddysgu broffesiynol;
  • Cynllunio ar gyfer datblygiad pellach.

Asesiad

Ddim yn berthnasol.

Dilyniant

Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.

Mwy o wybodaeth

Lefel: N/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen hon ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.