Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA sy'n darparu cymorth ac arweiniad gyda'ch camau nesaf i gael gwaith, creu eich busnes eich hun neu ddod o hyd i brentisiaeth.

Help i gael y swydd!

Gall CAMVA roi ystod eang o wybodaeth a chymorth i chi ar wneud cais am swyddi a dewis yr yrfa gywir.

Mae help ar gael:

  • I ysgrifennu CV
  • I ddeall eich sgiliau eich hun
  • I ddeall beth mae cyflogwyr ei angen?
  • I ddatblygu sgiliau cyfweliad
  • I ddod o hyd i brentisiaeth
  • I ddod o hyd i leoliad gwaith

Os hoffech siarad â chynghorydd ynghylch unrhyw un o'r rhain, anfonwch neges e-bost i camva@gllm.ac.uk ac fe wnawn ni eich helpu.

Ymunwch â ni ar Google Classroom i gael mynediad llawn i fideos, cyflwyniadau ac erthyglau am sut i gael gwaith neu wneud argraff dda mewn cyfweliad.

Pobl yn ysgwyd llaw

Ysgrifennu CV:

Mae CV amdanoch chi. Mae'n ddogfen sy'n rhoi cyfle i chi ddangos pwy ydych chi a'r hyn rydych chi wedi ei wneud. Pan fyddwch chi'n chwilio am swydd neu gwrs coleg, fe all y cyflogwr ofyn am gael gweld eich CV.

Yn aml, CV yw'r argraff gyntaf y bydd darpar gyflogwr neu diwtor coleg newydd yn ei gael ohonoch. Felly bydd llunio CV da yn eich helpu i hawlio sylw ac yn gwella eich cyfle o gael cyfweliad.

Pethau i'w gwneud ac i beidio â'u gwneud wrth greu CV

Mae sawl peth y dylech ei ystyried wrth ysgrifennu eich CV cyntaf neu ddiweddaru eich CV ar gyfer eich cais nesaf am swydd.

  • Dylech Fod yn gryno – ni ddylai CV fod yn fwy na dwy ochr
  • Dylech Osgoi cynnwys gwybodaeth ddiangen fel rhywedd, oedran a chrefydd
  • Dylech Roi berfau ar ddechrau brawddegau yn hytrach nag ysgrifennu yn y person cyntaf
  • Dylech Roi amlinelliad o'ch gyrfa, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar ac esbonio unrhyw fylchau
  • Dylech Ddefnyddio pwyntiau bwled i restru eich cyflawniadau a'ch cyfrifoldebau, gan roi rhagor o wybodaeth am eich rolau diweddaraf
  • Dylech Restru eich addysg a'ch cymwysterau, gan ddechrau gyda'r rhai diweddaraf
  • Dylech Gynnwys sgiliau TG, hyfforddiant perthnasol ac ieithoedd a siaredir
  • Dylech Gofio bod yn gryno wrth sôn am eich hobïau a'ch diddordebau
  • Dylech Nodi bod gennych ganolwyr a all ddarparu geirdaon os gwneir cais am hynny
  • Dylech Wirio'r CV am wallau a gofyn i rywun arall ei wirio hefyd
  • Ni ddylech Wneud eich CV yn rhy hir, er bod hynny'n demtasiwn – mae angen i CV ddangos popeth sydd gennych i'w gynnig, a dim byd arall
  • Ni ddylech gynnwys llun ohonoch eich hun ar eich CV os nad yw hynny'n angenrheidiol – mae'r rhan fwyaf o swyddi proffesiynol yn mynd i'r bobl sydd â'r CV gorau, nid y llun gorau
  • Ni ddylech Ddefnyddio ystrydebau. Mae pawb yn hoffi dweud eu bod yn gweithio'n dda mewn tîm, bod ganddynt sgiliau cyfathrebu gwych a'u bod yn gallu gweithio'n dda dan bwysau. Yn hytrach, defnyddiwch eich profiad i ddangos sut rydych yn gwneud y pethau hyn
  • Ni ddylech Ddweud celwydd neu ychwanegu at y gwirionedd ar eich CV – mae'n hawdd iawn gwirio pethau a gall celwydd bach ddifetha eich cyfle o lwyddo
  • Ni ddylech Restru pob proses neu becyn rydych wedi gweithio arno, wedi cael hyfforddiant arno, wedi clywed amdano neu wedi'i ddarllen yn y fanyleb
  • Ni ddylech Ddefnyddio tablau a graffeg fel ClipArt – gall y rhain edrych yn flêr
  • Ni ddylech Ddefnyddio cyfeiriadau e-bost neu enwau Twitter amhriodol sy'n edrych yn amhroffesiynol
  • Ni ddylech Gael eich temtio i leihau'r ffont neu'r ymylon er mwyn gallu cynnwys rhagor o wybodaeth
  • Ni ddylech Gynnwys tudalennau o dystlythyrau, geirdaon, toriadau papur newydd a thaflenni amherthnasol a dibwrpas
  • Ni ddylech Gyflwyno'ch CV gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost jonnywonnywoo@hotmail.com personol

Deall eich sgiliau eich hun:

Sgiliau Caled

Sgiliau caled yw eich gallu technegol i gyflawni tasgau penodol. Er enghraifft, mae gallu teipio'n gyflym yn sgìl galed, ac fe allwch chi fesur hynny trwy ddweud faint o eiriau allwch chi eu teipio'r funud.

Mae'r haws meithrin sgiliau caled gan eich bod yn gallu eu dysgu yn yr ysgol, yn eich bywyd personol ac yn eich gwaith. Fel arfer maen nhw'n gysylltiedig â swydd neu ddiwydiant penodol. ⁠Mae llawer o gyflogwyr yn cynnwys profion yn y broses gyfweld er mwyn gwneud yn siŵr fod gennych y sgiliau caled sydd eu hangen. Er enghraifft, yn ystod y broses benodi efallai y bydd gofyn i raglennwyr cyfrifiaduron ysgrifennu cod neu ganfod gwall mewn cod er mwyn dangos beth yw lefel eu sgiliau.

Sgiliau meddal

Mae sgiliau meddal yn anoddach i'w mesur neu'u dysgu gan eu bod yn ymwneud â'ch nodweddion a'ch arferion personol. Er enghraifft, mae'r gallu i roi arweinyddiaeth gadarn neu i ddatrys problemau'n sgiliau meddal. Un o brif fanteision sgiliau meddal yw bod modd eu trosglwyddo. Gallwch ddefnyddio eich sgiliau meddal mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a swyddi, felly gallant arwain at fwy o gyfleoedd na sgiliau caled.

Mae cyflogwyr yn rhestru ac yn chwilio am sgiliau meddal penodol gan eu bod yn cyfrannu at amgylchedd gweithio cadarnhaol a llwyddiannus. ⁠Os ydych yn gweld bod angen i chi weithio ar ambell sgìl feddal, fel cyfathrebu, gallwch wneud hynny yn eich amser eich hun. Does dim angen i chi fynd i'r ysgol na dilyn unrhyw gyrsiau i fod yn gyfathrebwr da. Gallwch wella eich sgiliau cyfathrebu drwy siarad â'ch ffrindiau neu gydweithwyr neu ysgrifennu atynt.

Beth mae cyflogwyr ei angen?

Mae swydd ddisgrifiad yn esbonio rôl y cwmni, gan amlinellu dyletswyddau a gofynion y swydd a'r hyn mae'r cyflogwr yn ei ddisgwyl gan weithiwr. Tra bod cyflogwyr yn defnyddio swydd ddisgrifiadau i ddod o hyd i bobl dalentog, mae gweithwyr proffesiynol yn eu defnyddio i ddod o hyd i swyddi diddorol y mae ganddynt y cymwysterau ar eu cyfer.

Sgiliau cyfweliad

I'r rhan fwyaf o bobl, mae cael cyfweliad am swydd yn un o'r pethau mwyaf brawychus y bydd rhaid iddynt ei wneud yn eu bywyd, felly mae'n bwysig iawn paratoi'n dda.

Cyn mynd i gyfweliad, bydd angen i chi ystyried pa fath o gwestiynau y gall y cyflogwyr eu gofyn i chi er mwyn gallu paratoi eich atebion. Bydd angen i chi hefyd feddwl am gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn iddyn nhw. Er enghraifft, efallai eich bod am wybod beth yw'r oriau, faint o wyliau gewch chi ac, wrth gwrs, faint o gyflog fyddwch chi'n ei gael. Mae hefyd yn bwysig gofyn cwestiynau penodol am y swydd er mwyn dangos bod gennych chi ddiddordeb ynddi.

Beth yr hoffai'r rhai sy'n cyfweld allu ei ddweud wrth bob ymgeisyd

  1. Rydw i am i chi fod yn ddymunol ac agos-atoch

  2. Dydw i ddim am i chi ddweud yn syth eich bod chi eisiau'r ⁠swydd

  3. Rydw i eisiau i chi wneud argraff...

  4. ... ond nid am fod yn negyddol

  5. Rydw i eisiau i chi ofyn llwyth o gwestiynau am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi...

  6. ... ond dim ond os ydi mwyafrif y cwestiynau hynny'n gysylltiedig â gwaith go iawn.

  7. Rydw i wrth fy modd pan rydych chi'n dod â “phrosiect” gyda chi

  8. Ar y diwedd, rydw i am i chi ofyn am y swydd... ac rydw i eisiau gwybod pam.

  9. Rydw i eisiau i chi roi enghreifftiau go iawn

Dau berson yn defnyddio gliniadur

Bwrsariaeth Myfyrwyr Addysg Uwch (prosiect Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd wedi'u Targedu CCAUC)

Gall myfyrwyr Addysg Uwch o grwpiau a dangynrychiolir fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr i’w cynorthwyo i fynd ar brofiad gwaith, i gael eu mentora, i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac i gael cyngor gyrfa ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i dyfodolmyfyrwyr@gllm.ac.uk

Arglwyddes mewn swyddfa

Bod yn fos arnoch chi eich hun!

Os oes gennych syniad busnes, neu os hoffech help i feddwl am syniad busnes er mwyn cael bod yn fos arnoch chi eich hun, yna gall y tîm menter eich helpu bob cam o'r ffordd.

Gallwn eich helpu gyda datblygu syniad, creu cynllun, marchnata, cyllid, a chyllido.

Mae'r tîm Menter ar gael i'ch helpu i feithrin sgiliau menter trwy gyfrwng pob math o gynlluniau, gweithdai, tiwtorialau a digwyddiadau. Gall llawer o'r rhain eich rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr a chyflogwyr mewn diwydiannau lleol.

Cysylltwch â camva@gllm.ac.uk

Mae gennym dudalen facebook hefyd, ymunwch am y wybodaeth ddiweddaraf - Enterprise / Menter yn Grwp Llandrillo Menai

Swyddogion Menter

  • Karen Aerts - Coleg Llandrillo
  • Shoned Owen - Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Swyddi - i'ch siwtio chi!

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd? Un ai'n llawn amser, yn rhan-amser, yn dymhorol neu fel prentis?

Yna edrychwch ar ein hysbysfwrdd swyddi i gael gwybod am y cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael yn lleol. Mae dewis helaeth o swyddi ar gael a gallwch wneud cais am lawer ohonynt gyda CV syml. Peidiwch â cholli cyfle. Edrychwch ar yr hysbysfwrdd heddiw!

Dewch i wybod mwy...

Rhywun sy'n defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith