Rydym yma i'ch helpu
Oes arnoch chi angen cymorth gyda'ch sgiliau llythrennedd a'ch sgiliau rhifedd?
Mae darllen, ysgrifennu, mathemateg a TGCh yn sgiliau hanfodol ac mae pawb yn eu defnyddio bob dydd. Gallwn eich
helpu i wella'ch dull o ysgrifennu'ch aseiniadau neu'ch dull o adolygu at
asesiadau neu arholiadau. Mae yna lu o gyfleoedd i chi wella'ch sillafu, eich ysgrifennu a'ch sgiliau
mathemategol ac i gael graddau TGAU gwell.
Cefnogi Dysgu
Peidiwch â phoeni os byddwch, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael anhawster i astudio oherwydd gallwn gynnig nifer
o wasanaethau i'ch helpu i lwyddo. Gall y cymorth fod am gyfnod byr
neu drwy gydol eich cwrs; gall fod yn gymorth un-i-un neu'n gymorth mewn grŵp. Gallwch chi neu'ch Tiwtor
Personol gael gair â'r Tîm Cefnogi Dysgu i wybod rhagor am offer arbenigol ac am asesu
anawsterau penodol fel dyslecsia. Gall y Coleg hefyd wneud trefniadau ychwanegol gyda byrddau arholi.
Cyfleusterau a Chymorth i Bobl Anabl
Mae'r Colegau yn gwbl gynhwysol ac yn rhoi cyfle cyfartal i bawb. Gall pob campws roi cymorth pwrpasol i ddysgwyr
sydd â diffyg ar eu golwg neu ar eu clyw neu sydd angen help llaw i symud
o gwmpas. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Dysgu ar eich campws.
Cymorth a Lles Personol
Tiwtor Personol
Pwrpas Tiwtoriaid Personol yw gwneud yn siŵr eich bod yn dod i arfer â bywyd Coleg. Bydd eich tiwtor yn eich
helpu i ddatrys unrhyw broblemau a all fod gennych o ran astudio, a bydd yn
cynllunio ac yn adolygu'r cynnydd a wnewch er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni'ch amcanion.
Cadw'n Ddiogel
Os teimlwch eich bod yn cael eich trin yn annheg neu'n cael eich harasio, gallwch gael cyngor cyfrinachol a
chefnogaeth gan y Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr.
Cymorth a Chwnsela Cyfrinachol
Mae cymorth ar gael i fyfyrwyr sy'n cael problemau dwys yn bersonol, yn emosiynol neu o ran eu lles. Mae staff
cymwysedig wrth law i gynnig cefnogaeth gyfrinachol i'ch helpu drwy gyfnod anodd
neu argyfwng personol. Os hoffech gael sgwrs, galwch heibio'r Uned Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws a
holwch am y Cynghorydd Myfyrwyr neu Gydlynydd Lles y Myfyrwyr.
Anogwyr Dysgu
Mae yna Anogwyr Dysgu cymwysedig wrth law i weithio gyda myfyrwyr er mwyn gwella eu presenoldeb a'u sgiliau bywyd
(e.e. bod yn brydlon). Byddant yn helpu myfyrwyr i fagu hyder a gwella eu
cymhelliant a'u hagwedd at ddysgu. Gall myfyrwyr elwa ar wasanaeth yr Anogwyr Dysgu drwy fynd i sesiynau galw
heibio. Gall Tiwtoriaid Personol hefyd gyfeirio myfyrwyr i gael cymorth.
Llais y Dysgwyr
Fel myfyriwr, cewch gyfle i ddweud eich dweud ynghylch y modd y caiff eich Coleg ei redeg. Fe wnawn yn siŵr y
byddwch yn gwybod ble i gael gwybodaeth a sut i leisio'ch barn ar wahanol
bynciau. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn dweud wrthych beth wnaethom yn sgil eich sylwadau.