Gallwch gael cefnogaeth bellach ar sianel Llyfrgell Youtube Gwella Hyder Digidol a'r wefan Sgiliau Astudio newydd sy'n cynnwys adnoddau i'ch helpu gyda sgiliau ysgrifennu ymchwil ac aseiniadau.
Yn yr holl fannau mynediad agored, sydd ar agor yn ystod oriau gwaith y coleg, ceir y meddalwedd a'r caledwedd
diweddaraf. Gall y staff cyfeillgar sydd yn y canolfannau hyn roi cymorth, cyngor ac arweiniad i chi ar sut i
ddefnyddio TG yn effeithiol.
Mae'r amgylchedd astudio ar bob campws yn caniatáu i chi astudio'n annibynnol a thrafod mewn grwpiau bach, yn ogystal
â defnyddio'r rhwydwaith a'r Wi-Fi yn rhad ac am ddim.
Nod Tîm y Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu yw rhoi i chi:
1) Le i astudio;
- boed ar gyfrifiadur personol neu ar liniadur
- mewn grŵp bychan wrth fwrdd astudio
- neu’n annibynnol
2) Mynediad i ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys;
- e-lyfrau
- llyfrau printiedig
- cylchgronau a phapurau newydd
- DVDs
3) Cymorth a chyngor
Oriau agor
Bydd llawer o'r campysau ar agor am lai o oriau yn ystod gwyliau’r myfyrwyr, felly holwch cyn teithio.
Coleg Llandrillo
Coleg Meirion-Dwyfor
Coleg Menai
Catalog y llyfrgell
Pori'r catalog