Adroddiad effaith entrepreneuriaeth 2024 – 2025
Mae Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi'r blaenoriaethau allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru — galluogi entrepreneuriaeth, ymgysylltu, grymuso a chyfarparu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn drwy fenter, a chyflymu entrepreneuriaeth myfyrwyr.
Mae'r Grŵp yn derbyn cefnogaeth ariannol werthfawr gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda'r gwaith hwn ac mae'n falch o rannu'r uchafbwyntiau a'r deilliannau canlynol gan Karen yn ardal Llandrillo-yn-Rhos, y Rhyl, Abergele, Dinbych a'r gymuned a Shoned yn ardal Bangor, Dolgellau a Meirion-Dwyfor.
Uchafbwyntiau Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth
Medi 2024 – Awst 2025
- Mae'r Swyddogion Menter yn cefnogi gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth ar draws y Grŵp, gan weithio i ysbrydoli, rhoi'r cyfleoedd a grymuso dysgwyr i ystyried ac ymchwilio i hunangyflogaeth a gwaith llawrydd.
- Cynhaliwyd amrywiaeth o heriau menter, sgyrsiau a gweithdai rhyngweithio ar draws campysau, gan ennyn diddordeb myfyrwyr mewn datrys problemau creadigol, gwaith tîm a chynhyrchu syniadau gan y Swyddogion Menter a'r Modelau Rôl o Syniadau Mawr Cymru.
- Datblygwyd cysylltiadau cryf gyda Syniadau Mawr Cymru. Bu'r Swyddogion Menter yn cysylltu dysgwyr â modelau rôl lleol a chyfleoedd entrepreneuraidd.
- Mae dysgwyr wedi elwa o siaradwyr gwadd, sesiynau cychwyn busnes, a chyfleoedd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i ddatblygu eu hyder mewn menter.
- Mae cydweithio â thimau cwricwlwm wedi cefnogi ymgorffori entrepreneuriaeth yn y meysydd pwnc, sy'n cyd-fynd â Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i hyrwyddo entrepreneuriaeth ar draws pob campws, gan gynnwys drwy gofrestru ar-lein gyda CAMVA, lle gall dysgwyr a staff gael gwybodaeth am fentrau a chyfeirio eu hymholiadau at gymorth perthnasol.
CAMVA yw Asiantaeth Alwedigaethol y Grŵp ac mae'r Biwro Cyflogaeth a Menter yn rhan ohoni
Dysgwyr Mentrus
- Gwnaeth 4313 o ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau menter 'Ymgysylltu'.
- Cymerodd 137 o ddysgwyr ran mewn gweithgareddau menter 'Grymuso' a gynlluniwyd i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, meddylfryd a gallu entrepreneuraidd.
- Gwnaeth 21 o ddysgwyr fanteisio ar gymorth menter wedi'i deilwra ac arweiniad un i un i ystyried cyfleoedd hunangyflogaeth a chychwyn microfusnes.
- Lansiwyd busnes gan chwe dysgwr ac rydym yn parhau i'w cefnogi gyda'u twf.
Cyflymu Entrepreneuriaeth Myfyrwyr
- Cafodd dysgwyr fanteisio ar fentora unigol neu mewn grŵp bach i ymchwilio i syniadau busnes.
- Cymerodd dysgwyr gamau cadarnhaol tuag at hunangyflogaeth, gan gynnwys mynychu gweithdai busnes, masnachu arbrofol neu gofrestru fel masnachwyr unigol.
- Mae cydweithio â phartneriaid allanol a rhwydweithiau busnes lleol yn parhau i ddarparu ysbrydoliaeth a llwybrau cymorth yn y byd go iawn i ddarpar entrepreneuriaid.
Mae'r dull ymarferol hwn yn grymuso myfyrwyr i feithrin eu hysbryd entrepreneuraidd, datblygu cynlluniau busnes cadarn, ac yn y pen draw lansio eu busnesau eu hunain, gan gyfrannu at eu llwyddiant eu hunain a'r economi ehangach. Wrth edrych i'r dyfodol, rydym yn edrych ymlaen i helpu hyd yn oed rhagor o fyfyrwyr i droi eu syniadau'n fusnes llewyrchus, gan weithio gyda'n partneriaid allanol i roi pob cyfle posibl i'n myfyrwyr ddod yn berchnogion busnesau llwyddiannus.
Isod: Dewiswyd 2 enillydd cystadleuaeth fewnol ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ y Grŵp am eu hymrwymiad rhagorol i gychwyn eu busnesau; Gwaith gof a systemau TG.
Isod: Gweithdai modelau rôl Syniadau Mawr Cymru; rhwydweithio, cyllid, marchnata, uchafu canlyniadau chwilio, cynlluniau busnes, cyfryngau.
Galluogi Entrepreneuriaeth
- Mae Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i hyrwyddo entrepreneuriaeth ar draws pob campws, gan gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru, busnesau a chynghorau lleol, a phartneriaid menter lleol i gryfhau'r ecosystem entrepreneuraidd.
- Mae ymgysylltu parhaus â staff, dysgwyr a busnesau lleol yn sicrhau bod entrepreneuriaeth yn parhau i fod wrth wraidd cyflogadwyedd a dysgu gydol oes ar draws holl gampysau GLlM.
Fel tîm Menter ymroddedig ac arbenigol yn y coleg, ein cenhadaeth graidd yw meithrin entrepreneuriaeth i bob dysgwr. Rydym yn cynnig y man cychwyn hanfodol hwnnw i'n myfyrwyr entrepreneuraidd, gan roi arweiniad ac adnoddau hanfodol iddynt weddnewid eu syniadau'n fusnesau hyfyw... a thu hwnt.
Cwrdd â'r tîm:
Shoned Owen
Mae Shoned yn cynnal busnes sydd wedi ennill gwobrau ac mae hi hefyd yn Fodel Rôl cydnabyddedig Syniadau Mawr Cymru, gan ysbrydoli pobl ifanc a dysgwyr i ymchwilio i entrepreneuriaeth. Ochr yn ochr â'i rôl fel Swyddog Menter, mae hi'n cynnal gweithdai cyfryngau cymdeithasol a datblygu brand, yn trefnu digwyddiadau cymunedol sy'n dod â phobl a busnesau lleol at ei gilydd, ac yn rhannu mewnwelediadau trwy flogio ffordd o fyw sy'n hyrwyddo lles, creadigrwydd a menter.
Karen Aerts
Mae Karen yn cynnal busnes llwyddiannus yn yr ardal leol ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad hunangyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau, dylunio gerddi a thirlunio, gwasanaethau ariannol, gofal plant, cwnsela a hypnotherapi. Cyflwynwyd gwobr i Karen am ei gwaith cymunedol ac elusennol dros 35 mlynedd yn ddiweddar. Ar hyn o bryd mae hi'n cynnal amrywiaeth o weithdai ynghylch pob maes cyflogaeth ac entrepreneuriaeth ac yn cydlynu cystadlaethau menter yn y coleg.