Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Entrepreneur y Mis' Coleg Menai'n Sefydlu Busnes Coffi Newydd!

Yn ddiweddar, lansiodd Grŵp Llandrillo Menai gystadleuaeth 'Entrepreneur y Mis' i wobrwyo ac i dynnu sylw at yr holl fyfyrwyr ar ei 12 campws sy'n mentro i fyd busnes.

Entrepreneur mis Chwefror yw Siôn Owen, myfyriwr sy'n dilyn y cwrs Busnes Lefel 2 yng Ngholeg Menai, Bangor.

Mae Siôn a'i dad, Colin, yn gwerthu coffi o hen wagen geffylau yn Llanberis. Agorodd Bar Coffi Bobby, sydd wedi'i enwi ar ôl taid Siôn, ar 25 Hydref 2020, sef diwrnod cyntaf y cyfnod clo byr.

Mae Siôn yn dioddef o HCM (hypertrophic cardiomyopathy) ac o ganlyniad mae ganddo ICD, sef dyfais debyg i reolydd y galon, yn ei frest. Fodd bynnag, roedd yn benderfynol o beidio â gadael i'w gyflwr rwystro dim arno, a phenderfynodd ddechrau'r busnes yn fuan ar ôl cael y diagnosis.

Meddai Siôn: "Y peth gorau am fod yn entrepreneur ydi gallu gweithio i mi fy hun a bod yn fos arna i fy hun. Mae hynny'n rhoi bodlonrwydd mawr i mi."

"Dw i'n credu'n gryf bod yna bob amser le i ddatblygu mewn busnes, ac mae dysgu fy hun sut i redeg busnes wedi helpu fy natblygiad personol. Yn sicr, rydw i'n fwy annibynnol rŵan."

Ychwanegodd, "Yr her fwyaf i mi oedd cael hyder yn fy mhenderfyniadau fi fy hun. Cyn dechrau'r busnes, ro'n i bob amser yn amau fi fy hun ac yn poeni o'n i wedi gwneud y penderfyniad iawn. Ond hyd yn oed os gwnewch chi gamgymeriad, dw i wedi dysgu ers dechrau'r busnes bod yna bob amser gyfle i chi ei gywiro."

Meddai Shoned Owen, Swyddog Mentergarwch Coleg Menai, "Mae'r Tîm Mentergarwch yn falch iawn o'r hyn mae Siôn wedi'i gyflawni ac mae ei stori'n ysbrydoliaeth i ni i gyd. Pan fydd pethau'n dod yn ôl i drefn, rydym yn edrych ymlaen at ymweld â Siôn yn ei far coffi i ffilmio fideo ohono gyda Hannah Hughes - Swyddog Lles Grŵp Llandrillo Menai. Bydd y fideo hwn yn cael ei rannu ar sianel YouTube y coleg."

Pagination