P'un a ydych yn berson ifanc 16-19 oed neu'n berson 20 oed neu drosodd, mae’n bosib fod amryw o ddewisiadau, a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau wrth weithio, ar gael i chi.
Yn aml, bydd y dysgu'n digwydd yn y gweithle dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwys, gyda hyfforddiant yn y coleg i ategu hynny.
Gallwch bori drwy ein prentisiaethau cyfredol yma neu lenwi’r ffurflen gyswllt a bydd un o'n Hymgynghorwyr yn cysylltu i drafod eich opsiynau.
Taith y Prentis
Oeddech chi'n gwybod?
Gwella Perfformiad Ymarferol (Prentisiaeth Lefel 2)
“Rydw i'n elwa ar y sgiliau rydw i'n eu dysgu yn y gweithle, ac yn sgil hyn rydw i'n gobeithio parhau i ddatblygu yn y diwydiant bragu. Yn ogystal, rydw i'n cael cydnabyddiaeth am y sgiliau technegol trosglwyddadwy rydw i wedi'u dysgu a bydd hyn o fudd mawr i mi ar gyfer cael gwaith yn y dyfodol.”
Ryan Hazeldine, Bragwr/Prentis dan Hyfforddiant, Wild Horse Brewing