Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Partneriaeth dair ffordd ydy KTP rhwng y cwmni, y tîm academaidd (y colegau) a'r graddedigion (aelod cysylltiol KTP), sy'n eich galluogi chi i gael arbenigedd a sgiliau a fydd yn helpu eich cwmni i ddatblygu medrau newydd a fydd yn arwain at fwy o elw a chystad.

Mae prosiectau KTP wedi eu hadeiladu o gwmpas eich anghenion busnes a gallant barhau o chwe mis hyd at dair blynedd. Gall prosiect KTP fod yn ateb cost effeithiol sy'n rhoi eich cwmni ar flaen y gad.

Y manteision:
Mae ymchwil yn dangos bod budd KTP yn sylweddol i'r cwmni ac i'r aelod cyswllt. Gall hyn gynnwys:

Budd i'r cwmni:

  • Cynnydd mewn mantais cystadleuol
  • Gwella perfformiad/busnes
  • Cynnydd mewn proffidioldeb
  • Creu tair swydd newydd
  • Cynnydd yn sgiliau'r staff sy'n bodoli'n barod

Budd i'r cyswllt:

  • Datblygu gyrfa ar drywydd cyflym
  • Cyflog cystadleuol
  • Hyfforddi a datblygu
  • Gwaith o fewn y ddisgyblaeth academaidd a ddewiswyd

Pam Busnes@LlandrilloMenai:
Mae'r tîm KTP yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn rhoi cyngor a chefnogaeth drwy gydol y prosiect: o'r cyswllt cyntaf i recriwtio'r cyswllt a rheoli'r holl weinyddiaeth ac agweddau ariannol.

Mae gennym hanes llwyddiannus o ddarparu prosiectau KTP o safon gyda llu o gwmnïau rhanbarthol. Yn wir, rydym newydd ennill y wobr am y bartneriaeth KPT orau yng Nghymru, ac wedi derbyn clod uchel ar lefel y Deyrnas Unedig.

Gallwn gynnig atebion arloesol i'ch busnes drwy gynnig arbenigedd a chefnogaeth mewn ystod eang o feysydd yn cynnwys:

  • Gweithredu systemau rheoli cynllunio
  • Cyflwyno cynnyrch newydd
  • Integreiddio offer ac arferion dylunio newydd
  • Datblygu cynnyrch newydd
  • Gwella cynllunio strategol ac effeithlonrwydd gweithredol y cwmni drwy leihau costau cynhyrchu ac amser arwain
  • Disgyblaethau a meysydd eraill

Os credwch chi y gallai eich busnes elwa o KTP, cysylltwch â ni am sgwrs gychwynnol ar 08445 460 460.

Dyma ei'n Astudiaeth Achos mwyaf diweddaraf efo Fifth Wheel

Ariennir gan Logo Llywodraeth Cymru