Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai'n lansio prentisiaethau newydd ym maes cadwraeth

Mae Busnes@LlandrilloMenai, gwasanaeth Grŵp Llandrillo Menai i fusnesau, wedi lansio fframwaith prentisiaeth newydd mewn Cadwraeth Amgylcheddol.

Mae'r cymhwyster yn addas i bobl sy'n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, yn cynnwys garddwyr, gosodwyr ffiniau, wardeiniaid cefn gwlad, swyddogion ailgylchu, coedwigwyr, prosiectau cymunedol, ciperiaid ac eraill.

Bydd chwe phrentis yn dechrau ar y cwrs fis Medi a'r bwriad ydy dechrau grŵp arall ar y cwrs ym mis Ionawr.

Partneriaeth Ogwen sydd wedi'i leoli ym Methesda fydd un o'r sefydliadau cyntaf i elwa ar y cymhwyster newydd hwn. Maen nhw yn y broses o recriwtio dau Brentis Gwyrdd a bydd y prentisiaid yn canolbwyntio ar wella'r amgylchedd lleol a lles pobl. I wneud cais ewch i: https://www.partneriaethogwen.cymru/en/job-vacancies-and-opportunities/green-apprentice/

Meddai Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith:

"Mae'n newyddion gwych ein bod yn gallu cynnig y fframwaith prentisiaeth newydd hwn. Mae nifer o gwmnïau a sefydliadau yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu arferion busnes er budd cadwraeth a'r amgylchedd, yn ai drwy leihau allyriadau carbon, drwy wella a diogelu amgylcheddau neu gynnal ardaloedd gwyrdd - mae'r brentisiaeth newydd hon yn ychwanegiad gwych i'n portffolio o hyfforddiant seiliedig ar waith."

Mae'r brentisiaeth yn ymdrin â sawl maes, yn cynnwys diogelu tirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau, rheoli mynediad y cyhoedd a gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad, yn ogystal â dehongli er mwyn codi ymwybyddiaeth o gefn gwlad, ei ddeall a'i fwynhau.

Mae hefyd yn addas ar gyfer prosiectau cymunedol fel ailgylchu, banciau bwyd ac ati. Mae'r sector yn cynnwys ardaloedd gwledig a threfol, afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd ledled Cymru, gyda llawer ohonynt wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchodaeth arbennig.

Os hoffech wybod rhagor am gyflogi Prentis mewn Cadwraeth yn eich busnes cysylltwch â Julie Stokes Jones ar 08445 460 460 neu anfonwch e-bost at busnes@gllm.ac.uk

Pagination