Crynodeb Blynyddol ar gyfer Grŵp Llandrillo Menai
Yn fyr, ein huchelgais gyffredinol ar gyfer Entrepreneuriaeth yn GLLM yw:
Rhoi cyfle i bob dysgwr gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd, gan gefnogi’r rhai hynny sydd ag uchelgeisiau penodol i ddechrau busnes a datblygu, eu helpu i fynd yn eu blaenau drwy’r ecosystem fenter ranbarthol a helpu i gynyddu nifer y busnesau newydd ledled Gogledd Cymru.
Ers uno, mae Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) wedi dangos ymrwymiad i hyrwyddo a sefydlu diwylliant sy’n dangos yn glir pa mor bwysig yw entrepreneuriaeth. Mae’n cael ei weld fel ffordd o ysgogi twf economaidd a gwella ffyniant.
Mae GLLM yn ffodus bod ganddo Hyrwyddwyr Menter hynod wybodus a phrofiadol sy’n gyfrifol am gydlynu a chyflwyno digwyddiadau, trefnu gweithgareddau a monitro ym mhob un o’r 9 campws. Caiff y tîm ei arwain gan Karen Aerts, sy’n rhedeg ei busnes cwnsela ei hun, ac un o’r meysydd y mae’n arbenigo ynddynt yw gweithdai hyder a gwytnwch. Treuliodd Gareth Thomas ran o 2019 yn gweithio ar safleoedd Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor a daeth â set unigryw o sgiliau llythrennedd digidol gydag ef, gan ganolbwyntio ar redeg ei gwmni gemau hynod lwyddiannus ei hun. Yn ystod 2019 cryfhawyd y tîm ymhellach gan yr awydd i gynnig rôl ychwanegol i ganolbwyntio ar y myfyrwyr AU ar draws y Grŵp. Mae Stephanie Harding yn ddarlithydd Busnes ac mae ganddi radd MA mewn Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth.
Nodau Menter GLLM
- Sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad at addysg a gweithgareddau Menter fel rhan o’u cwricwlwm er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith ac elwa o economi wybodaeth sy’n tyfu
- Ymgysylltu â thua 4000 o ddysgwyr bob blwyddyn o ganlyniad i sefydlu Menter ac Entrepreneuriaeth mewn cyrsiau amser llawn
- Grymuso staff dysgu ac addysgu i sefydlu ethos entrepreneuraidd yn eu cwricwlwm penodol
- Gweithredu a meddwl mewn ffyrdd arloesol a mentrus er mwyn sicrhau bod y Grŵp yn cyflawni ar y lefel uchaf
- Canfod, creu a chynllunio ar gyfer cyfleoedd newydd yn gysylltiedig â’n blaenoriaethau sector rhanbarthol a gwybodaeth am y farchnad leol
- Gweld addysg menter fel proses ddysgu gydol oes
- Cynyddu ein capasiti drwy ddefnyddio partneriaid allanol ac adnoddau rhanddeiliaid
- Fel rhan o weithgareddau Creu Sbarc, annog dysgwyr i gofrestru ac ymgysylltu er mwyn helpu i adeiladu a chysylltu â’r gymuned entrepreneuraidd yng Nghymru
2019 |
Myfyrwyr |
Ymgysylltu (gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth) |
3100 |
Grymuso (Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynyddu capasiti entrepreneuraidd |
500 |
Cymhwyso (Myfyrwyr yn profi eu crefft neu’n dilysu eu syniadau busnes) |
107 |
Myfyrwyr a gefnogwyd i ddechrau busnes |
22 |
Nifer y busnesau a ddechreuwyd |
5 |
Facebook
Dewiswch pa dudalen Facebook yr ydych eisiau ei weld: