Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau academaidd arbennig o dda, gan gynnwys cyfradd basio o 98.9% yn 2020, ac yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled Prydain.
Cewch ofal da yn ystod eich cyfnod yn y coleg. Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd coleg a bydd yn cynllunio ac yn adolygu’ch cynnydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau. Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan staff ymroddedig ein Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys: cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a chwnsela cyfrinachol. Mae'n colegau hefyd yn rhan o gynllun Seren, Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi myfyrwyr disglair i gyflawni eu potensial academaidd a chael eu derbyn i'r prif brifysgolion.
Yn 2020, dangosodd ein canlyniadau Lefel A:
Os dewiswch astudio gyda ni, cewch elwa o gyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy’n adlewyrchu’r byd go iawn. Hefyd, pan na fyddwch mewn dosbarth, cewch ddefnyddio’r amrywiol gyfleusterau, yn cynnwys y llyfrgelloedd, y ganolfan chwaraeon a’r gampfa, neu ymlacio gyda phaned o goffi yn un o’n hamryw gaffis a ffreuturau.
Bydd y sgiliau a ddysgwch yn y coleg (fel cyfathrebu a rheoli amser a sgiliau sy’n gysylltiedig â meithrin annibyniaeth, gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a phrofiad gwaith) yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a pharod i ymgodymu â byd gwaith neu addysg uwch.
Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd a gallwch ymuno ag amrywiaeth o glybiau colegol.
Mae cymwysterau Lefel A yn rhoi pwyntiau UCAS gwerthfawr i chi allu gwneud cais am bob math o gyrsiau gradd mewn gwahanol sefydliadau, gan gynnwys prif brifysgolion y Deyrnas Unedig. Mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen a phrifysgolion blaenllaw eraill sy'n perthyn i Grŵp Russell.
Llwyddodd Connie Pike, myfyrwraig Lefel A o Borthmadog i ennill 1 A*, 2 A a 2 B mewn Seicoleg, Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg a Chymraeg gan sicrhau ei lle ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i astudio Seicoleg Fforensig a Chyfiawnder Troseddol.Astudiodd Connie Pike yng Ngholeg Menai
Cafodd James Farrar o Fallwyd lwyddiant ysgubol yn ei arholiadau Lefel A. Enillodd 3 gradd A* mewn Mathemateg Bellach, Mathemateg a Ffiseg gan sicrhau lle i astudio ym Mhrifysgol Caerfaddon. Dywedodd: "Roedd y gefnogaeth ges i gan y staff yn ardderchog, ac oni bai amdanyn nhw dw i'n sicr na fyddwn wedi llwyddo gystal. Roedd bod yn y coleg yn fwy o hwyl o lawer na bod yn yr ysgol."Astudiodd James Farrar yng Ngholeg Meirion-Dwyfor
Sicrhaodd Vincent Proud o Bensarn le i astudio Gwyddorau Naturiol Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt wedi iddo gael graddau A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg a gradd A mewn Cemeg. Meddai Vincent: "Dw i wedi ymddiddori mewn gwyddoniaeth erioed ac mae fy astudiaethau wedi rhoi i mi'r sgiliau i barhau ar hyd y llwybr yma. Roedd y staff yn help ac yn gefn mawr i mi; yn llythrennol, fedra i ddim diolch digon iddyn nhw. Os gwnewch yr ymdrech, mi allwch newid eich bywyd."Astudiodd Vincent Proud yng Ngholeg Llandrillo
Dewiswch pa dudalen Facebook yr ydych eisiau ei weld:
Dewiswch pa dudalen Twitter yr ydych eisiau ei weld
Coleg Llandrillo
Ffordd Llandudno Llandrillo-yn-Rhos LL28 4HZ 01492 546 666
Coleg Menai
Ffordd Ffriddoedd Bangor LL57 2TP 01248 370 125
Coleg Meirion-Dwyfor
Ffordd Ty'n y Coed Dolgellau LL40 2SW 01341 422 827
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg a bydd amseroedd ateb gohebiaeth yn y naill iaith a'r llall yr un fath.
Mae Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Hawlfraint © Grŵp Llandrillo Menai 2021
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.
Rydym wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd.
By using our website, you consent to the use of cookies.
We've made important changes to our Privacy Policy.