Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Actif i feithrin arweinwyr y dyfodol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ac i
hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Nid oes angen i'r dysgwyr sy'n ymuno â'r rhaglen fod yn athletwyr o'r radd flaenaf. Yn hytrach, anelir y
rhaglen at ddysgwyr brwdfrydig yng Ngrŵp Llandrillo Menai sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu coleg
a'u cymunedau lleol.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn:
- Hyrwyddo gweithgareddau corfforol i bobl ifanc yn eich coleg a'ch cymuned;
- Hyrwyddo gwerth cadarnhaol gweithgareddau corfforol;
- Bod yn fodel rôl sy'n hyrwyddo lles a ffyrdd iach o fyw;
- Cynyddu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a byw'n iach.
Y Mathau o Raglenni
Mae pum rhaglen Llysgennad Actif i'w cael, a phob un yn canolbwyntio ar ddiddordebau a sgiliau
penodol. Y bwriad yw denu ystod eang o sgiliau a gallu, a chynnig rhaglen sy'n gynhwysol ac
amrywiol.
- Gwirfoddolwyr mewn Digwyddiadau
- Arweinwyr Actif
- Hyfforddwyr
- Swyddogion
- Rheolwyr
Cyfleoedd
Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu:
- cyflawni oriau gwirfoddoli yn y gymuned;
- cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth
- cymryd rhan mewn prosiectau
- cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau ychwanegol
Y Bartneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru
Ar y cyd â rhaglen hwb Undeb Rygbi Cymru, sy'n anelu at dyfu, datblygu a gwella'r gêm genedlaethol ac
ehangu ei hapêl, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyflogi Swyddog Hybu Rygbi. Bydd hyn yn sicrhau
bod rygbi'n gêm gynhwysol sy'n ennyn diddordeb chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd o bob oedran a
charfan o gymdeithas, beth bynnag fo'u cymhelliant a/neu angen.
Gweithgareddau'r tymor hwn
Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau'n cael eu cynnal yn ystod y tymor i'ch annog i gymryd rhan yn y
Rhaglen Llysgenhadon Actif.
Digwyddiadau Hybu Rygbi
2019-2020 (PDF)
Ffurflen Gais
Ffurflen
Gais Llysgennad Actif 2020-21
Gwybodaeth bellach
I gael gwybod rhagor am y cynllun, yn cynnwys gweithgareddau Llysgenhadon Actif blaenorol y Grŵp,
cysylltwch â'n Swyddog Hybu Rygbi, Hannah Hughes, drwy ebos: hughes6h@gllm.ac.uk.