This page/site is under development.

Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cludiant Coleg Llandrillo

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob person 16-18 oed fynychu'r cwrs o'u dewis ar gampysau Coleg Llandrillo.

Mae awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych yn darparu cludiant bws am ddim i'ch campws agosaf os ydych chi:

  • yn byw ym mwrdeistrefi sirol Conwy neu Sir Ddinbych
  • mewn addysg bellach llawn amser
  • yn byw mwy na thair milltir o'ch campws coleg agosaf
  • dan 19 oed ar 1 Medi'r flwyddyn academaidd rydych chi'n mynychu

Os ydych chi'n byw yn sir Conwy neu'n Sir Ddinbych, ac na all eich awdurdod lleol eich cefnogi i fynychu’ch campws dewisol, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod chi'n gallu mynd i'r coleg.

Os ydych chi'n byw yn sir Conwy:

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd polisïau trafnidiaeth sir Conwy yn newid.

Rhaid i bob myfyriwr o sir Conwy (myfyrwyr sy'n dychwelyd a myfyrwyr newydd) sy'n bodloni'r meini prawf uchod wneud cais yn uniongyrchol i'r awdurdod lleol drwy ddilyn y ddolen hon am gludiant am ddim i'r coleg.

Bydd angen i chi ddangos eich pàs bws i deithio ar y bws o'r diwrnod cyntaf y byddwch yn mynychu'r coleg.

Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf, neu os nad ydych chi wedi derbyn eich pàs bws erbyn 26 Awst, cysylltwch â Lynda Roberts drwy anfon e-bost i cludiant@gllm.ac.uk neu ffonio 01492 546 666 est 1410 cyn gynted â phosibl.

Cymerwch olwg ar bolisi teithio Cyngor Conwy yn ogystal â Chanllawiau Cludiant am ddim i’r Ysgol a'r Coleg ar gyfer Dysgwyr Ôl-16 syn Byw yng Nghonwy.

Os ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych ac yn teithio i Gampws Llandrillo-yn-rhos:

Rhoddir pàs bws wrth gofrestru i bob myfyriwr llawn amser o Sir Ddinbych sydd o dan 19 oed ac yn byw mwy na thair milltir o'u campws agosaf.

Cewch fynd ar eich bws yn ystod wythnos gyntaf y coleg hyd yn oed os nad ydych chi wedi derbyn eich pàs bws eto (gweler yr amserlenni isod). Unwaith i chi dderbyn eich pàs bws, bydd angen i chi ei ddangos ar ddechrau pob taith. Dim ond ar gyfer yr safle bws a nodir ar y pàs y mae'r pàs bws yn ddilys.

Os ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych ac yn teithio i gampws y Rhyl:

Rhoddir Cod Actifadu Arriva M i bob myfyriwr llawn amser o Sir Ddinbych sydd o dan 19 oed ac yn byw mwy na thair milltir o'u campws agosaf.

Bydd angen i chi drefnu eich ffordd eich hun i gampws y Rhyl ar ddiwrnod cyntaf y coleg. Cyn eich diwrnod cyntaf yn y coleg, lawrlwythwch Ap bws Arriva i'ch ffôn symudol. Bydd angen Cod Actifadu Arriva M arnoch i actifadu eich ap; rhoddir hwn i chi wrth gofrestru. Ar ôl ei actifadu, byddwch wedyn yn gallu teithio i'r campws ac yn ôl i'r safle bws agosaf at eich cyfeiriad cartref am ddim.

Os ydych chi dros 19 oed neu'n byw y tu allan i sir Conwy neu Sir Ddinbych, bydd rhaid i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lynda Roberts neu ffoniwch 01492 546 666 est 1410 neu anfon e-bost i cludiant@gllm.ac.uk

Trefnir bysiau gan yr Awdurdod Lleol. Gall yr amseroedd a ddangosir isod newid. Gwiriwch am ddiweddariadau.

Gwasanaethau Tacsi'r Awdurdodau Lleol:

Gwneir ceisiadau am gludiant dyddiol mewn tacsi i'r coleg trwy eich awdurdod lleol, yn unol â'u polisi trafnidiaeth. Nid yw'r coleg yn darparu tacsis dyddiol ond gall gefnogi dysgwyr sy'n dymuno gwneud cais trwy helpu gyda phroses ymgeisio'r awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, os cawsoch gludiant dyddiol mewn tacsi tra oeddech yn yr ysgol, bydd eich awdurdod lleol wedi cysylltu â chi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol i gadarnhau eich trefniadau cludiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfonwch e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.

Beicio:

Ar bob campws ceir man penodol i barcio beiciau - peidiwch ag anghofio cloi!

Car:

Cewch barcio am ddim ar bob un o'r campysau.

Trên:

Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol ganiatáu i chi deithio ar drên. Bydd yr awdurdod lleol yn cadarnhau hyn gyda chi ar ôl i chi wneud cais am eich pàs teithio. Gall dysgwyr sy'n teithio'n rheolaidd ar y trên arbed arian gyda cherdyn rheilffordd 16‑25 neu gerdyn rheilffordd arall – ewch i https://www.railcard.co.uk/

Bws Arriva:

Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students

Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol: fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.



Angen Help?

Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk. Rydym ni yma i helpu.