Gwasanaethau i Ddysgwyr
Yma i'ch helpu chi
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, mae ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yn cynnig cyngor cyfeillgar a diduedd i'ch helpu chi tra byddwch chi yn y coleg.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
- Help i ddewis cyrsiau, gwneud ceisiadau, a gyda ffioedd
- Cyngor ar fenthyciadau a grantiau i ddysgwyr
- Cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant
- Cyngor ar Addysg Uwch, iechyd a llesiant
Ewch i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ar y campws neu ar-lein.
Rydym ni yma i'ch helpu chi.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen Gwasanaethau i Ddysgwyr mewn fformat PDF.

Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Taliad wythnosol o £40 i helpu pobl ifanc 16 i 18 oed gyda chostau addysg bellach yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Cyn belled â'ch bod chi'n bodloni gofynion presenoldeb eich ysgol neu'ch coleg, bydd y taliadau'n cael eu gwneud bob pythefnos.
I gael gwybod rhagor am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, dyma'r ‘Llyfr Bach LCA’
Cyllid Addysg Bellach
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru: AB
Mae Grant Dysgu AB Llywodraeth Cymru yn grant seiliedig ar incwm sy'n ceisio annog rhagor o bobl i barhau â'u haddysg.
Os ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn mae'n darparu arian i helpu gyda chostau eich addysg. Os ydych chi'n astudio'n llawn amser, gallech chi gael taliadau o hyd at £1,919 y flwyddyn, neu os ydych chi'n astudio'n rhan-amser, gallech chi gael hyd at £959 y flwyddyn.
Cliciwch yma i weld y fideo – Canllaw i Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru
Y Gronfa Cefnogi Dysgwyr
Gall y Gronfa Cefnogi Dysgwyr eich helpu i dalu am offer hanfodol, cyfarpar diogelu personol ac unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Yn ogystal, fe allech fod yn gymwys am grant i helpu i dalu am gostau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ymweliadau addysgol, cludiant a gofal plant.
Os ydych chi rhwng 16 a 18 oed, wedi bod yn cael Cinio Ysgol am Ddim a bod eich cartref yn derbyn y Credyd Cynhwysol, byddwch yn gymwys am hyd at £19.50 yr wythnos tuag at brynu cinio tra ydych yn y coleg.
Mae gennym ni hefyd grant i'ch helpu i brynu offer TGCh sy'n hanfodol i'ch cwrs.
Ewch i'r dudalen cymorth ariannol i gael rhagor o wybodaeth
Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi a'ch cyfrinair i rwydwaith y coleg wrth gwblhau eich cais am gymorth ariannol. Bydd eich Tiwtor Personol yn rhoi eich manylion mewngofnodi a'ch cyfrinair i chi pan fyddwch chi'n cofrestru ar eich cwrs.
Tyrd am Sgwrs cyn Gadael Cwrs
Ydych chi angen siarad â rhywun am eich cwrs? Ydych chi'n poeni eich bod wedi dewis y cwrs anghywir?
Os ydych chi'n meddwl am newid eich cwrs, siaradwch â'ch tiwtor personol, dewch i'r adran gwasanaethau i ddysgwyr neu llenwch y Google Form ar eDrac erbyn 27 Medi. Mae ein tîm yma i'ch helpu chi i wneud y penderfyniad iawn.
Cyflwyniad gan Reolwyr Gwasanaethau Dysgwr Coleg Llandrillo
Croeso i fideo cynefino Lisa, lle mae hi’n rhannu mewnwelediadau defnyddiol am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i ddysgwyr gan ein Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr.
Cyflwyniad gan Reolwyr Gwasanaethau Dysgwr Coleg Menai a Meirion-Dwyfor
Yn y fideo hwn, mae Alison yn esbonio sut y gall Gwasanaethau i Ddysgwyr helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'r cwrs cywir sy'n addas i'w nodau a'u hanghenion.
Cynghorydd Gwasanaethau Dysgwyr
Cyfarfwch Helen, Ymgynghorydd Gwasanaethau i Ddysgwyr, sydd am gyflwyno sut y gall hi a’r tîm gefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu taith ddysgu.