ISEP – Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Remote Learning
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      1 diwrnod

    Cofrestru
    ×

    ISEP – Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu

    Short Course

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn gwrs undydd rhagarweiniol sy'n rhoi cyflwyniad ymarferol i gynaliadwyedd amgylcheddol i bob aelod o staff.

    Mae wedi'i fwriadu ar gyfer pobl nad ydynt yn arbenigwyr ar yr amgylchedd, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar lefel weithredol, er mwyn datblygu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth, a'u cymhelliant fel bod cynaliadwyedd yn cael ei ymwreiddio yn eu sefydliad.

    Mae'r dystysgrif yn gymhwyster cydnabyddedig sy'n dangos ymwybyddiaeth amgylcheddol sylfaenol, ac a fydd yn helpu perfformiad, cydymffurfiaeth a datblygiad gyrfa staff.

    Mae'r deilliannau dysgu'n cynnwys:

    • y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd;

    • y gofynion cydymffurfio a'r rhesymau busnes sy'n gyrru newid;

    • y dylanwadau posibl ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd;

    • ffyrdd o wella perfformiad amgylcheddol.

    Dyddiadau Cwrs

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    13/03/2026 Dydd Gwener7.001 £190D0025993
    Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £190 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    21/04/2026 Dydd Mawrth7.001 £190D0026193
    Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £190 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    19/05/2026 Dydd Mawrth7.001 £190D0026202
    Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £190 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    16/06/2026 Dydd Mawrth7.001 £190D0026204
    Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £190 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    14/07/2026 Dydd Mawrth7.001 £190D0026203
    Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £190 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

    Gofynion mynediad

    Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o reolaeth ym maes cynaliadwyedd a'r amgylchedd.

    Addas i staff ar bob lefel ym mhob sector, yn enwedig y rhai mewn swyddi gweithredol.

    Cyflwyniad

    Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)

    Fel arfer mae'r cwrs yn para 7 awr (un diwrnod).

    Asesiad

    Asesir drwy arholiad/prawf amlddewis ar-lein ar ddiwedd y cwrs.

    I gael tystysgrif mae angen i ddysgwyr lwyddo yn y prawf (fel arfer gyda marc o 70% neu uwch).

    Dilyniant

    Ar ôl cwblhau'r cwrs, efallai y bydd dysgwyr am fynd ymlaen i wneud cymwysterau uwch ym maes cynaliadwyedd/yr amgylchedd. Er enghraifft: Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Reolwyrs a/neu'r Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

    Mae'r dystysgrif yn gymhwyster cydnabyddedig sy'n dangos ymwybyddiaeth amgylcheddol sylfaenol, ac a fydd yn helpu perfformiad, cydymffurfiaeth a datblygiad gyrfa staff.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom