Cymorth Myfyriwr
Rydym yma i'ch helpu.
Gwasanaethau i Ddysgwyr
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym ni'n cynnig ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cefnogi i'ch helpu i wneud y dewisiadau cywir cyn i chi gyrraedd y coleg, a thra byddwch chi yma. Pa gampws bynnag y byddwch chi'n ei fynychu, bydd y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yn siop un stop i chi gael cyngor ac arweiniad ar bob math o bynciau:
Cefnogaeth Bersonol:
- Cyngor pwrpasol ar sut i fynd ati i lunio cynllun dysgu i chi eich hun
- Arweiniad ynghylch gwneud cais am gyrsiau a gofynion mynediad
- Gwybodaeth am ffioedd cyrsiau
- Help i wneud cais am fenthyciadau a grantiau i ddysgwyr
Mae'r gwasanaethau ychwanegol sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyfleoedd i hyfforddi a datblygu gyrfa
- Cyngor ar yrfaoedd a lleoliadau gwaith
- Cyngor ar Addysg Uwch
- Cefnogaeth iechyd a lles
Tyrd am Sgwrs cyn Gadael Cwrs
Bydd cynghorwyr cyfeillgar ein Gwasanaeth i Ddysgwyr ar gael i gynnig cyngor diduedd i'ch helpu i wneud penderfyniadau doeth. Os ydych chi'n ystyried newid eich cwrs neu adael y coleg, a wnewch chi lenwi'r Google Form erbyn 27 Medi neu siarad â'ch tiwtor personol. Bydd rhywun o'r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn cysylltu â chi'n fuan.
Mae'r Google Form ar gael ar eDrac y Dysgwyr neu gallwch fynd i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws.
Cymorth Dysgu
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch astudiaethau, peidiwch â phoeni. Mae ein gwasanaethau Cymorth Dysgu ar gael i'ch helpu chi i lwyddo. Rydym ni'n cynnig sesiynau un i un a sesiynau grŵp i ddysgwyr sydd angen cefnogaeth dros gyfnod byr neu gefnogaeth dros gyfnod mwy hir dymor. Gall ein tîm Cymorth Dysgu helpu drwy gynnig offer arbenigol a thrafod eich anghenion unigol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Cyfleusterau a Chymorth i Ddysgwyr ag Anableddau
Rydym ni'n credu mewn cynnig cyfle cyfartal i bob dysgwr. Mae pob campws yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i'r rhai â nam ar eu golwg neu glyw, neu'r rhai sydd angen cymorth i symud. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â'r tîm Cymorth Dysgu ar eich campws.
Cymorth gyda Llythrennedd a Rhifedd
Mae darllen, ysgrifennu, mathemateg a TGCh yn sgiliau bywyd hanfodol. Rydym ni'n cynnig cefnogaeth i'ch helpu chi i wella eich sgiliau ysgrifennu aseiniadau, eich technegau adolygu, a'ch graddau TGAU.
Cymorth Personol a Chymorth Lles
Tiwtoriaid Personol:
Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd yn y coleg. Bydd hefyd yn eich cefnogi i oresgyn unrhyw heriau academaidd gan eich helpu i olrhain eich cynnydd a gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau.
Cadw'n Ddiogel:
Os teimlwch eich bod yn cael eich trin yn annheg neu fod rhywun yn aflonyddu arnoch, mae cefnogaeth a chyngor ar gael gan dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr.
Cymorth a Chwnsela Cyfrinachol:
Mae staff profiadol ar gael i'ch cefnogi drwy unrhyw heriau personol ac emosiynol neu anawsterau'n gysylltiedig â lles. Os bydd arnoch angen siarad â rhywun, dewch draw i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr a gofynnwch am gael siarad â Chynghorydd Myfyrwyr neu Gydlynydd Lles.
Profiad o fod mewn Gofal
Os oes gennych chi brofiad o fod mewn gofal (e.e. Plentyn sy'n Derbyn Gofal/Person Ifanc sy'n Gadael Gofal), rydym ni'n cynnig cefnogaeth bwrpasol i'ch helpu i ymgyfarwyddo â bywyd yn y coleg. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
- Unigolyn cyswllt personol i'ch cynorthwyo drwy'r cyfnod pontio ac i fod yn gyswllt rhyngoch chi, eich tîm addysgu, ac unrhyw asiantaethau cymorth.
- Cymorth ariannol i'ch helpu gyda chostau offer hanfodol
- Cefnogaeth ychwanegol i gynorthwyo gyda chostau graddio i ddysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Gallwch nodi eich profiad o fod mewn gofal ar y ffurflen gais neu drwy gysylltu â ni ar staysafe@gllm.ac.uk.
Llais y Dysgwyr
Fel myfyriwr, cewch gyfle i ddweud eich dweud ynghylch beth sy'n digwydd yn y coleg. Rydym ni'n croesawu eich sylwadau ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i rannu eich barn â ni. Rydym ni'n gwrando arnoch chi, ac yn gweithredu ar yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud er mwyn gwella eich profiadau yma.