Trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg
Pan fyddwch yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg, bydd ein Cydlynwyr Cefnogi Dysgu yma i’ch cefnogi. Gall y cyfnod yma fod yn gyfnod cyffrous a phryderus ichi a’ch rhieni, gofalwyr neu warchediwaid. Ein nôd yw gwneud eich trosglwyddiad i’r coleg mor llyfn â phosibl; felly mae’n hanfodol bwysig eich bod yn cynllunio o flaen llaw.
Dyma rai ffyrdd y gallwn eich cefnogi i drosglwyddo i’r coleg.
Adolygiadau Blynyddol Ysgol
Byddwn yn mynychu eich adolygiad blynyddol yn yr ysgol. Byddwn yn trafod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o ran cefnogaeth yn y coleg ar ôl i ni fynychu eich adolygiad neu ar ôl ichi gysylltu â ni. Byddwch yn cael gwybodaeth am Ddarpariaeth Ddysgu Cyffredinol a Darpariaeth Dysgu Ychwanegol y coleg.
Cliciwch yma i lawrlwytho PDF 'Pontio i addysg bellach a/neu hyfforddiant i ddysgwyr sydd ag ADY'.
Cysylltu gyda rhieni, gofalwyr, gwarchediwad ac asiantaethau eraill
Byddwn yn siarad â’ch rhieni, gofalwyr, gwarchediwaid, ac asiantaethau eraill i ystyried y ffordd orau i’ch cefnogi. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich caniatâd i’ch ysgol ac asiantaethau perthnasol eraill rannu gwybodaeth gyda ni, byddwn yn gofyn am unrhyw dystiolaeth meddygol neu gefnogi dysgu y byddwn ei angen (fel rhan o’ch cais) er mwyn ein galluogi i ddarparu’r gefnogaeth fwyaf addas yn y coleg.
Proffil Un Tudalen a Cynllun Datblygu Unigol
Bydd y proffil un tudalen neu’r Cynllun Datblygu Unigol yn
cael ei greu neu ei ddiweddaru. Byddwn yn datblygu eich cynllun yn
flynyddol.
Digwyddiadau agored, ymweliadau a theithiau o gwmpas y coleg
Gallwn gynnig cefnogaeth yn ystod digwyddiadau agored. Gallwn hefyd drefnu teithiau ac ymweliadau personol â’r coleg i’ch helpu i ddod i adnabod y campws.
Holiadur Anghenion Dysgu Ychwanegol
Er mwyn ein galluogi i asesu eich angehnion cefnogi byddwn yn anfon Holiadur Anghenion Dysgu Ychwanegol atoch i’w lenwi; bydd hyn yn ein helpu i ddeall y ffordd orau i’ch cefnogi yn ystod eich cyfnod yn y coleg.
Campysau
Mae gennym sawl campws, safle neu leoliad yng nghymunedau lleol Gogledd Cymru.
Adborth gan Matthew Misiak, Athro Cynhwysiant yn Ysgol Aberconwy ynglŷn ag ymweliad pontio i'r coleg
Mae'r trefniadau pontio wedi bod yn dda hyd yma, ma’r Cydlynnydd Cefnogi Dysgu wedi mynychu adolygiadau blynyddol ADY i helpu i lywio dewisiadau ôl-16 myfyrwyr blwyddyn 11 a helpu gyda cheisiadau yn ystod cyfnod pwysig. Mae ymweliad heddiw wedi dod â'r cwbl yn 'fyw' iddyn nhw ac maen nhw'n gwybod bod modd trefnu ymweliadau penodol pellach drwyddo i neu drwy ofyn i'w rheini. Bydd modd hefyd i'r cynghorydd Gyrfa Cymru, sydd wedi meithrin perthynas dda â nhw, elwa ar yr ymweliad.