NPORS S001 cwrs ymwybyddiaeth diogelwch adeiladu

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      1 diwrnod

    Cofrestru
    ×

    NPORS S001 cwrs ymwybyddiaeth diogelwch adeiladu

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y dysgwr ddealltwriaeth sylfaenol ynghylch:

    • y diwydiant
    • peryglon gweithio yn y diwydiant
    • cyfrifoldebau'r Cyflogwr, y Gweithiwr a'r Hunangyflogedig
    • Gweithdrefnau brys, yn cynnwys Cymorth Cyntaf a Thân
    • ⁠Risgiau i iechyd a lles
    • Gweithio ar uchder,
    • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
    • Sylweddau peryglus a gwastraff amgylcheddol – mesurau diogelu a rheoli
    • codi a chario
    • diogelwch trydan
    • offer a chyfarpar llaw
    • effeithiau sŵn, dirgrynu a chludiant ar y safle ar unigolion a'r amgylchedd
    • cloddiadau, archwiliadau, diogelwch cludiant a thrafnidiaeth

    Gofynion mynediad

    Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

    Cyflwyniad

    Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth

    Asesiad

    Arholiad cwestiynau amlddewis – theori

    Dilyniant

    Mae'r dystysgrif hon yn ddilys am 5 mlynedd.

    Ar ôl cwblhau prawf iechyd, diogelwch ac amgylchedd CSCS, sydd hefyd yn cael ei gynnig gennym ni, gallwch wedyn wneud cais am gerdyn gwyrdd CITB.

    Y cerdyn hwn yw'r isafswm y byddai ei angen arnoch i weithio ar unrhyw safle adeiladu yn y Deyrnas Unedig.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom