Systemau Pwmp Gwres NICEIC - Sgiliau Trydanol a Diagnosteg

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      3 diwrnod (22.5 awr)

    Cofrestru
    ×

    Systemau Pwmp Gwres NICEIC - Sgiliau Trydanol a Diagnosteg

    Short Course

    CIST-Llangefni
    Dydd Iau, 07/05/2026

    Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs tridiau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer peirianwyr sy'n gweithio gyda phympiau gwres neu sy'n bwriadu uwchsgilio. Bydd yn eich helpu i ddeall sut mae systemau pwmpio gwres yn gweithio — a sut i ganfod ac atgyweirio namau'n hyderus ac yn ddiogel. Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer peirianwyr sydd eisiau adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol am osod a dysgu sgiliau diagnostig ymarferol, yn barod ar gyfer y gwaith.

    Uned

    Pwnc

    Yr hyn fyddwch chi'n ei ddysgu

    1

    Hanfodion Trydanol

    Hanfodion gwyddoniaeth drydanol ar gyfer systemau pwmp gwres.

    2

    Hanfodion Diogelwch Trydanol

    Sut i gadw'n ddiogel wrth weithio gyda thrydan.

    3

    Sut mae Systemau Pwmp Gwres yn gweithio

    Sut mae cydrannau a systemau rheoli'n gweithio.

    4

    Diagnosteg Namau

    Technegau i nodi a thrwsio namau mewn systemau.

    Dyddiadau Cwrs

    CIST-Llangefni

    Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    07/05/202608:30 Dydd Mercher, Dydd Iau21.002 £695D0026241

    Gofynion mynediad

    Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer:

    • Gosodwyr pympiau gwres ardystiedig sydd am ddatblygu sgiliau canfod namau.
    • Peirianwyr sydd â phrofiad o systemau gwresogi gwlyb.
    • Trydanwyr cymwysedig sydd am ymuno â'r sector gwresogi carbon isel.

    Rhaid i ddysgwyr:

    • Feddu ar dystysgrif gydnabyddedig ym maes gosod a chynnal a chadw pympiau gwres.
    • Feddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o:
    • Systemau allyrru gwres canolog gwlyb.
    • Rheolyddion systemau gwresogi.
    • Cydrannau gwresogi.

    Cyflwyniad

    Cyflwynir y cwrs dros dridiau hyfforddi llawn ac mae'n cynnwys hyfforddiant ac asesiad o dan arweiniad tiwtor.

    Asesiad

    I ennill eich tystysgrif, rhaid i chi gwblhau'r pedair uned. Mae asesu yn cynnwys:

    • Prawf theori ar ddiwedd y cwrs.
    • Tasgau llyfr gwaith ar gyfer pob uned.
    • Asesiad ymarferol.

    Dilyniant

    Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn Tystysgrif Cymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant gan NICEIC. Byddwch yn magu hyder gyda diagnosted a thrwsio namau system pwmp gwres trwy hyfforddiant ymarferol gydag enghreifftiau bywyd go iawn a chyfarwyddyd arbenigol

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom