ISEP- Tystysgrif mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      15 diwrnod

    Cofrestru
    ×

    ISEP- Tystysgrif mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd

    Short Course

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs Tystysgrif mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar lefel weithredol mewn swyddi sy'n ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, neu'r rhai sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth a datblygu eu gyrfa yn y maes. Mae'r cwrs yn rhoi sylfaen gref i ddysgwyr mewn egwyddorion cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn ogystal â'r adnoddau ymarferol sydd eu hangen arnynt i ysgogi newid cadarnhaol. Mae'r maes llafur wedi ei rannu'n dri modiwl. Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall y cyfranogwyr wneud cais i ymaelodi ag ISEP fel ymarferwr ⁠a defnyddio’r ôl-ddodiad proffesiynol PISEP.

    Mae'r maes llafur wedi ei rannu'n dri modiwl, yn trafod pynciau fel:

    • ⁠Tueddiadau byd-eang a'u goblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol a sefydliadol
    • ⁠Modelau cynaliadwy ar gyfer busnes a llywodraethu
    • Egwyddorion amgylcheddol a sut maent yn cysylltu â sefydliadau, cynnyrch a gwasanaethau
    • Polisïau a deddfau perthnasol a sut maent yn effeithio ar sefydliadau
    • Adnoddau, technegau, systemau ac arferion ar gyfer cynaliadwyedd
    • Dulliau arweiniol ac arloesol ar gyfer canfod atebion cynaliadwy
    • Casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata ar gyfer gwneud penderfyniadau
    • Adnabod problemau ac asesu cyfleoedd
    • Cyfathrebu, ymgysylltu â rhanddeiliaid
    • Rhoi newid ar waith, trawsnewid, prosiectau a rhaglenni

    Mae ffi'r cwrs yn cynnwys aelodaeth blwyddyn o ISEP, a fydd yn dechrau wrth gofrestru.
    Yn ystod y cwrs, mae gan y dysgwyr aelodaeth fel ymgeiswyr i fod yn ymarferwyr.
    Wedi iddynt lwyddo yn yr asesiadau, gwahoddir y dysgwyr i gwblhau proses ffurfiol i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr.

    Gofynion mynediad

    I gofrestru ar y cwrs tystysgrif hwn, dylai fod gan ddysgwyr ddealltwriaeth lefel sylfaen o gysyniadau'n gysylltiedig â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, un ai drwy brofiad gwaith blaenorol neu drwy gymhwyster rhagarweiniol perthnasol (er enghraifft, y Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd).

    Cyflwyniad

    Mae’r cwrs yn cynnwys 120 awr (15 diwrnod) o ddysgu a gellir ei gyflwyno drwy un o'r dulliau canlynol:

    Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)

    Dysgu yn y dosbarth

    Asesiad

    Mae'r dulliau asesu wedi'u strwythuro ar draws:

    • Tri aseiniad seiliedig ar wybodaeth
    • Un asesiad o gymhwysedd, sy'n dangos sut mae'r wybodaeth a ddysgwyd ar y cwrs wedi cael ei rhoi ar waith yn ymarferol yn y gweithle

    I'r rhai ar y llwybr dysgu cymhwysol, gall dulliau asesu eraill fod ar gael a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar arddangos ymarferol.

    Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y dysgwyr yn cael tystysgrif ffurfiol a manylion ynghylch sut i wneud cais i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr (gyda'r ôl-ddodiad PISEP).


    Dilyniant

    Mae ennill y dystysgrif hon yn galluogi dysgwyr i uwchraddio eu haelodaeth ac i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr.

    Wedi iddynt lwyddo yn yr asesiadau, gwahoddir y dysgwyr i gwblhau proses ffurfiol i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom