Dyfarniad EAL Lefel 3 mewn Gwirio ac Ardystio Gosodiadau Trydan Newydd

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      1 diwrnod yr wythnos am 4 wythnos

      Asesiad Ymarferol – hanner diwrnod

      Arholiad – 2 awr

    Cofrestru
    ×

    Dyfarniad EAL Lefel 3 mewn Gwirio ac Ardystio Gosodiadau Trydan Newydd

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs yn trafod y theori a'r gwaith ymarferol sy'n gysylltiedig â gwirio a chomisiynu gosodiadau trydan newydd sy'n cynnwys cylched un cam a rhai sy'n cynnwys cylched tri cham.

    Mae'r cwrs yn dilyn BS 7671, Nodyn Canllaw 3 IET a Chanllawiau Electical Safety First ar Arferion Gorau.

    Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i unigolion ddatblygu a/neu wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ym maes archwilio a phrofi gosodiadau trydan foltedd ised un a thri cham.

    Gofynion mynediad

    1. ⁠GOFYNNOL Dyfarniad 18fed Argraffiad Rheoliadau Gwifro IET (e.e. C&G cyfres 2380 neu EAL 603/3298/0), a

    2. O leiaf 2 flynedd o brofiad yn y maes

    Bydd arnoch angen copïau o 18fed Argraffiad Rheoliadau Gwifro IET (Brown Book) a Nodyn Canllaw 3 IET ar Archwilio a Phrofi (BS 7671:2018+A2@2022)

    Cyflwyniad

    Cyfuniad o ddarlithoedd theori, arddangosiadau o ddulliau profi, ac astudio ar eich liwt eich hun.

    Asesiad

    Asesiad Ymarferol: 3.5 awr

    Y math o asesiad: Cwestiynau Amlddewis

    Nifer y Cwestiynau: 60

    Yr Amser a Ganiateir: 120 munud

    Mae hwn yn arholiad llyfr agored sy'n gofyn i chi gyfeirio at Nodyn Canllaw 3: Archwilio a Phrofi, a gyhoeddir gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

    Gall ymgeiswyr hefyd ddefnyddio cyfrifiannell na ellir ei rhaglennu

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom