NICEIC Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Part-time
  • Hyd:

    Day release: 1 day a week over 6 months

Cofrestrwch
×

NICEIC Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)

Part-time Courses

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd gwaith yr hyfforddeion yn cael ei asesu yn y meysydd canlynol:

Cyswllt â chwsmeriaid

Profi tyndra (yn cynnwys pwysedd canolog*)

Llwyrlanhau

Gosod pibellau

Olrhain gollyngiad nwy a'i atgyweirio*

Datgysylltu pibellau / mesuryddion cyn gwneud gwaith

Gosod pwysedd a chyfraddau nwy

Asesiadau risg ac arferion gweithio diogel

Gofynion awyru

Gweithredu a phrofi rheolyddion cyfarpar.

Newid cydrannau nwy cyfarpar

Offer a ddefnyddiau

Ffliwiau*

Defnyddio labeli a rhybuddion y diwydiant*

*gall y rhain gael eu hefelychu

Cynnwys y Cwrs Tystysgrif Sylfaenol ym maes Nwy i Osodwyr Annomestig:

Mae'r llwybr CMA1 yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig ac annomestig a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 280 o oriau dysgu.

Mae'r llwybr CMA3 yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 230 o oriau dysgu.

Mae'r llwybr CMA2LS yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig nad ydynt i'w cysylltu i'r cyflenwad mewnol a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 105 o oriau dysgu.

Gofynion mynediad

Rhaid i'r ymgeiswyr gael mentor er mwyn gallu dangos eu bod yn gymwys mewn sefyllfaoedd gwaith go iawn. Tra byddant yn cyflawni'r tasgau bydd y gwaith yn cael ei arsylwi a'i gofnodi gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig sydd wedi'i gymeradwyo gan y Ganolfan. Bydd yr holl dasgau a dyletswyddau yn rhai y gellid disgwyl yn rhesymol i weithiwr nwy cymwys eu cyflawni. Felly bydd disgwyl i'r holl hyfforddeion ddangos eu cymhwysedd i gyflawni tasgau dros gyfnod o amser o dan amodau gwaith arferol er mwyn cynhyrchu digon o dystiolaeth i'w portffolio.

Cyflwyniad

  • Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth.
  • Arddangosiadau ymarferol.
  • Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
  • Gwaith Grŵp

Asesiad

  • Asesiad ymarferol
  • Arholiad theori atebion byr
  • Arholiad amlddewis
  • Ymarfer i ganfod peryglon
  • Portffolio seiliedig ar waith
  • Arholiad llyfr agored amlddewis

Dilyniant

Upon gaining ACS qualification, candidates can be Gas Safe Registered for CCN1 (pipework) + 1 appliance.

After 12 months on the register progression to further gas appliance training and assessment if additional qualifications required.

Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



Anfonwch neges atom