ABBE Tystysgrif Lefel 3 Mewn Asesu Ynni Domestig
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
-
Dull astudio:Part-time
-
Hyd:
Tri diwrnod o wersi rhyngweithiol a gyflwynir bob yn ail wythnos. Yn dilyn hyn byddwch yn astudio yn eich amser eich hun.
ABBE Tystysgrif Lefel 3 Mewn Asesu Ynni Domestig
Short Course
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Asesydd Ynni Domestig – Cymhwyster Lefel 3 ABBE
Ydych chi'n barod i ail-lansio eich gyrfa fel Asesydd Ynni Domestig (DEA)? Dyma gymhwyster sy'n eich paratoi i gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) ar gyfer cartrefi sydd wedi'i hadeiladu eisoes – rôl hanfodol i wella effeithlonrwydd ynni stoc dai'r Deyrnas Unedig. Ar ôl cymhwyso, byddwch yn gymwys i gofrestru ar Gynllun Achredu swyddogol ac i ddechrau gweithio fel Asesydd Ynni Domestig.
Beth i'w Ddisgwyl:
Cwrs rhyngweithiol a arweinir gan diwtor yw hwn ac fe'i cyflwynir dros dri diwrnod bob yn ail wythnos. Arno byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i asesu ystod eang o eiddo domestig ac i gynhyrchu EPCs yn unol â rheoliadau'r llywodraeth. Yn ystod yr hyfforddiant, byddwch yn gweithio ar ddau asesiad EPC gan ymdrin ag eiddo o wahanol fathau ac o wahanol gyfnodau er mwyn cael profiad cynhwysfawr.
Ar ôl cwblhau'r sesiynau dan arweiniad tiwtor, byddwch yn gweithio'n annibynnol ar dri asesiad EPC ychwanegol ar gyfer portffolio a asesir. Bydd y profiad ymarferol hwn yn rhoi'r hyder a'r gallu i chi gynnal asesiadau ynni yn y byd go iawn.
Pwysig: Chi sy'n gyfrifol am ddewis eich tri achos prawf a rhaid iddynt fodloni gofynion matrics eiddo'r ABBE a fydd yn rhan o ddeunyddiau'r cwrs.
Ar ôl y Sesiynau dan Arweiniad Tiwtor:
Dydi'r dysgu ddim yn dod i ben ar derfyn y tri diwrnod o sesiynau dosbarth. Byddwch yn parhau i ddysgu yn eich amser eich hun, gan gyflwyno aseiniadau a phortffolio o fewn y cyfnod o chwe mis y rhoddir mynediad i chi i feddalwedd RdSAP Elmhurst. Ar ôl i chi gwblhau eich portffolio'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif Lefel 3 ABBE ac yn gallu gwneud cais i ymuno ag unrhyw Gynllun Achredu DEA cydnabyddedig.
Noder: I wneud cais am achrediad DEA ar ôl derbyn eich tystysgrif, bydd arnoch angen tystysgrif ddatgelu sylfaenol (DBS/CRB) a gyhoeddwyd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Yr hyn y bydd arnoch ei angen:
• Gliniadur – Dewch â'ch gliniadur eich hun neu gadewch i ni wybod ymlaen llaw os hoffech i ni ddarparu un.
• Cyfrif Google - Bydd arnoch angen hwn i allu defnyddio adnoddau'r cwrs ac i gyflwyno eich portffolio. Cliciwch yma i greu cyfrif.
Beth Rydych Chi'n ei Gael
• Mynediad am ddim am chwe mis i feddalwedd RdSAP Elmhurst (hanfodol ar gyfer cynhyrchu EPCs). Gallwch barhau i gael mynediad ar ôl hynny drwy dalu £50 i Elmhurst.
Gofynion mynediad
• Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad penodol i ddod yn Asesydd Ynni Domestig (DEA).
• Gall diddordeb mewn adeiladu a sgiliau mathemateg da fod yn fantais, ond nid ydynt yn hanfodol.
• Bydd angen mynediad i dri eiddo er mwyn cwblhau'r tri achos prawf EPC ar ôl y cwrs.
Polisi Canslo:
Codir tâl llawn y cwrs arnoch os byddwch yn canslo o fewn 5 diwrnod gwaith i'r dyddiad dechrau, neu'n peidio â mynychu.
Yr Offer sydd ei Angen:
• Tâp mesur neu ddyfais fesur laser ar gyfer mesur dimensiynau ystafelloedd.
• Ysgol risiau, i gael mynediad i ofod yr atig.
• Cyfrifiadur personol neu liniadur
• Camera neu ffôn clyfar/cyfrifiadur llechen i dynnu lluniau o du mewn a thu allan eiddo fel tystiolaeth.
Cyflwyniad
Tri diwrnod o wersi rhyngweithiol a gyflwynir bob yn ail wythnos. Yn dilyn hyn byddwch yn astudio yn eich amser eich hun.
Asesiad
Asesiad, cwestiynau amlddewis a phortffolio.
