Trefniadau Cludiant Coleg o Fis Medi 2020
Cwestiynau Cyffredin
- Fydd yn rhaid i mi
wisgo masg wrth deithio ar gludiant coleg?
Rhaid i fyfyrwyr sy'n defnyddio cludiant y coleg wisgo gorchudd wyneb.
I sicrhau'r diogelwch mwyaf posib, rhaid i'r holl ddysgwyr a staff wisgo gorchuddion wyneb mewn
ardaloedd cyffredin (coridorau, ffreuturau, llyfrgelloedd, toiledau) ac ar bob cludiant coleg, o
ddydd Mawrth, 1af Medi 2020.
Rhaid i ddysgwyr gyda chyflwr meddygol gwaelodol gysylltu gyda Chefnogi Dysgu ar ady@gllm.ac.uk i
drafod unrhyw bryderon yn ymwneud â gwisgo gorchuddion wyneb.
- Sut olwg fydd ar
drafnidiaeth coleg o fis Medi 2020 ymalen?
Gofynnwn i ddysgwyr dilyn hylendid dwylo a resbiradol da a phellter cymdeithasol, gan y bydd hyn yn
chwarae rhan allweddol mewn cadw pawb yn ddiogel.
Mae hyn yn golygu dilyn y rhagofalon dilynol:
- peidiwch â theithio os ydych yn profi unrhyw symptomau o COVID-19, yn hunan-ynysu o ganlyniad i
symptomau COVID-19 ac/neu’n byw gyda rhywun sydd gan symptomau neu sy’n agored yn glinigol i
niwed
- ystyriwch a yw defnyddio trafnidiaeth y coleg yn wirioneddol angenrheidiol
- golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddiheintiwch eich dwylo cyn gadael y tŷ
- cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth bobl nad ydynt yn byw gyda chi drwy gydol y daith i’r
coleg, gan gynnwys yn y safle bws ac yn y cerbyd. Os na fydd hyn yn bosib, ddylech osgoi gyswllt
corfforol ac wynebu i ffwrdd oddi wrth bobl eraill
- osgowch gyswllt corfforol ag eraill
- bydd ffenestri yn agored ar gyfer awyriad
- wynebwch oddi wrth bobl eraill wrth ddefnyddio trafnidiaeth
- lleihewch y nifer o arwynebau a gyffyrddwch ynddynt, ac yn benodol osgowch gyffwrdd mewn
arwynebau fel canllawiau (handrails) a silffoedd ffenestr
- peidiwch â chyffwrdd yn eich wyneb
- cadwch yr amser a dreuliwch wrth ymyl pobl eraill mor fyr â phosib wrth ddefnyddio trafnidiaeth
coleg
- peidiwch â bwyta nac yfed pan fyddwch yn defnyddio’r drafnidiaeth coleg
- ymarferwch hylendid resbiradol da. Mae’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’ yn bwysig. Gall ddod
ag hancesi ar y drafnidiaeth, gan gael gwared ag unrhyw rai a ddefnyddir cyn gadael y bws
- golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu diheintiwch eich dwylo cyn gadael y coleg ac ar ôl
cyrraedd adref
Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth
Cymru, gan gynnwys sut i greu gorchudd wyneb a sut i gael gwared â nhw’n ddiogel.
- Sut fyddai’n gwybod
lle i esitedd?
I sicrhau nad yw dysgwyr yn mynd heibio’i gilydd ar y bws gan leihau’r pellter cymdeithasol, bydd y
weithdrefn ganlynol yn cael ei dilyn:
- wrth fynd ar y bws ar y ffordd i’r coleg, bydd rhaid i ddisgyblion eistedd yn y sedd agosaf sydd
ar gael at y cefn, ac mae’n rhaid i’r dysgwyr sydd agosaf at y fynedfa fynd oddi ar y bws
gyntaf.
- wrth fynd ar y bws ar y ffordd adref o’r coleg, dilynwch gyfarwyddyd gan y gyrrwr/staff coleg.
Mae’n rhaid i ddysgwyr sy’n mynd ar y bws gyntaf eistedd ar y seddi pellaf sydd ar gael yng
nghefn y bws, gyda’r dysgwyr yn mynd ar y bws yn olaf yn eistedd agosaf i du blaen y bws
- A fydd gweithredwyr
trafnidiaeth yn dilyn arweiniad iechyd a
diogelwch?
Rydym yn gofyn i weithredwyr trafnidiaeth ddilyn Arweiniad Llywodraeth
Cymru.
Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys gweithredoedd megis diheintio rheolaidd, glanhau cerbydau yn drwyadl a
defnydd o PPE.
Nodwch y gall gwrthod i gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, hylendid da a phellter
cymdeithasol beryglu eich lle ar drafnidiaeth ysgol. Gwerthfawrogwn eich cymorth i cadw pawb yn
ddiogel.
- Y Cod Ymddygiad o ran
Teithio ar Wasanaethau Cludo’r Coleg
Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, rhaid i ddysgwyr sy'n defnyddio cludiant y coleg gytuno â'r canlynol:
- Rhaid i ddysgwyr sydd â hawl i bàs bws fod â'u pàs yn eu meddiant bob amser a'i ddangos bob tro
y gofynnir iddynt wneud hynny. Oni fyddant yn gwneud hynny, gellir gwrthod iddynt deithio ar y
bws neu codir tâl arnynt.
- Rhaid iddynt wisgo gorchuddion wyneb bob amser, wrth aros i gael eu cludo i/o'r coleg, wrth
deithio ac wrth adael y bws.
- Wrth aros am y bws, rhaid i ddysgwyr gadw at y rheolau pellhau cymdeithasol o 2 fetr a
pheidio â mynd ar y bws oni bai fod y gyrrwr yn dweud wrthynt.
- Diheintiwch neu golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad cyn mynd ar y bws ac ar ôl cyrraedd
pen eich taith.
- Wrth fynd i mewn i'r bws, rhaid i'r dysgwyr fynd i'r sedd bellaf yn y cefn, gan lenwi’r bws
o'r cefn.
- Disgwylir i ddysgwyr barchu hawliau pobl eraill sy'n defnyddio'r bws, ac ni oddefir unrhyw
aflonyddu neu fwlio.
- Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau'r coleg.
- Ni ddylai dysgwyr yfed alcohol na bod o dan ddylanwad alcohol ar gerbydau'r coleg.
- Ni ddylai dysgwyr fod o dan ddylanwad cyffuriau, na bod â chyffuriau yn eu meddiant, ar
gerbydau'r coleg.
- Ni ddylai dysgwyr ddifrodi na difwyno unrhyw gerbyd na gosodiadau.
- Ar ôl i'r bws gyrraedd y coleg, rhaid i'r dysgwyr adael y bws o'r tu blaen. Ni ddylai dysgwr
adael eu seddau hyd nes y bydd y sawl sydd o'i flaen wedi gadael y bws.
- Mae gan yrrwr y bws awdurdod llwyr ar fws y coleg. Bydd peidio â dilyn ei gyfarwyddiadau'n
cael ei ystyried yn drosedd ddifrifol.
Ni oddefir ymddygiad drwg a gwrthgymdeithasol ar gerbydau'r coleg. Bydd rhai sy'n troseddu'n gyson
ac/neu'n ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gerbydau’r coleg. Bydd y coleg yn monitro
ymddygiad ar fysiau, gan roi'r trefnau disgyblu colegol ar waith yn ôl y galw.
Mae'r Cod Ymddygiad wrth Deithio'n adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymru a gall newidiadau i
ganllawiau cenedlaethol effeithio arno.
Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:
- yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2020,
- yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy neu Ddinbych ac
- yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu,
yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'r coleg ar fysiau a
ddarperir gan y Cyngor.
Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:
- yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2020,
- yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Gwynedd neu Ynys Mon ac
- yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu,
yna byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at ganran o gost tocyn bws i'ch galluogi i deithio yn ôl ac
ymlaen i'r coleg ar fysiau a
ddarperir gan y Cyngor.
- Coleg Llandrillo
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â chyrraedd a gadael y Coleg, cysylltwch â’r Cydlynydd
Cludiant drwy
ffonio 01492 546 666 est. 1410 neu anfonwch e-bost i transport@gllm.ac.uk.
I gampws Llandrillo-yn-Rhos o:
Cysylltiadau defnyddiol:
- Coleg
Meirion-Dwyfor
Campws Dolgellau:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Helen Jones: hwjones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385est 8618
Campws Glynllifon:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Llinos Morris: llinos.morris@gllm.ac.uk neu 01286 830 261est 8535
Campws Pwllheli:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Helen Jones: hwjones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385est 8618
- Coleg Menai
Bangor
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Jennifer Williams: jennifer.williams@gllm.ac.uk neu 01248 370 125est
3456
Llangefni
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Dafydd Thomas: dafydd.thomas@gllm.ac.uk neu 01248 383 348est 2229
Parc Menai
Gwybodaeth arall
Lawr lwythiadau eraill:
Facebook
Dewiswch pa dudalen Facebook yr ydych eisiau ei weld: