Pa gampws bynnag y byddwch yn ei fynychu, bydd y Tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yn rhyw fath o siop un-alwad i chi er mwyn i chi gael gwybodaeth am bob mathau o bynciau:
- Cyngor ar sut i gynllunio rhaglen ddysgu bersonol
- Cyngor ar sut i wneud cais am le ar gwrs, a gwybodaeth am y gofynion mynediad
- Gwybodaeth am ffioedd cwrs
- Cyngor ar sut i wneud cais am fenthyciadau a grantiau
Rydym hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad yn y meysydd a ganlyn:
- Cyfleoedd hyfforddi
- Cyngor gyrfaol
- Addysg uwch
- Swyddi, a phrofiad gwaith i raddedigion
- Iechyd a lles