Mae modd dilyn y Gangen ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd:
- Twitter @SCGLlM
- Instagram: @cangengllm
Os hoffech ragor o wybodaeth am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Grŵp, y cyfleoedd sydd ar gael neu i ymaelodi â’r Gangen, byddai Nia a Sara yn falch o glywed gennych.
Cefndir y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Ers ei sefydlu, mae’r Coleg yn cynllunio a chefnogi darpariaeth Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ar draws prifysgolion Cymru. Yn dilyn adolygiad o weithgareddau’r Coleg yn 2016/17 ar gais Llywodraeth Cymru y mae’r Coleg wedi ymestyn ei weithgareddau i’r sector ôl-16, gan gwmpasu Addysg Bellach a Phrentisiaethau.
Nod y Coleg wrth gydweithio gyda darparwyr yw sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion yng Nghymru.
Gellir gweld mwy am y Coleg ar ein gwefan - http://www.colegcymraeg.ac.uk/en/
Beth yw Cangen?
Mae’r canghennau’n rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â datblygiadau cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion a cholegau addysg bellach. Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn y broses o greu ‘Cangen’ ei hun erbyn tymor yr Hydref 2020 gyda chroestoriad o staff a myfyrwyr ar draws y Grŵp.
Llysgenhadon Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae gan y Coleg raglen Llysgenhadon Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Nod y rhaglen yw sicrhau rhwydwaith o lysgenhadon ledled sefydliadau addysg bellach Cymru i hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu sefydliad ac astudio’n ddwyieithog. Mae hawl gan y Colegau Addysg bellach gael hyd at dri llysgennad ond mae gofyn bod o leiaf un o’r llysgenhadon yn astudio ym meysydd blaenoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sef: Iechyd a Gofal, Gofal Plant neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mae cynllun penodol hefyd ar gyfer y llysgenhadon yn y sector prentisiaethau.
Dyma Lysgenhadon Addysg Bellach cyntaf Grŵp Llandrillo Menai. Maen nhw’n cefnogi gwaith y Swyddogion Cangen ac yn annog eu cyfoedion i astudio a byw yn Gymrae; beth bynnag fo’u gallu ieithyddol. I wybod mwy amdanynt neu os hoffech wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun cenedlaethol hwn yn y dyfodol, ewch ar ein tudalennau cymdeithasol.

Targed Llywodraeth Cymru - Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Cofiwch fod y Gymraeg yn iaith i BOB dysgwr. Mae’r Swyddogion Cangen yn gweithredu drwy ddilyn Model Datblygu Sgiliau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod cyfle i bawb yng Ngrŵp Llandrillo Menai ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Ymhle ar y pyramid wyt ti?
