Mae Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCU) ac mae gan bob
myfyriwr hawl awtomatig i ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr, gan elwa ar y berthynas a grëwyd rhwng y ddau undeb.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai dri llywydd etholedig, un ym mhob coleg: Coleg Llandrillo, Coleg
Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Caiff llywyddion yr Undeb eu hethol tua diwedd pob blwyddyn golegol a byddant yn
dechrau ar eu swyddi fis Medi.
Yn ogystal â'r tri Llywydd, mae gan Undeb y Myfyrwyr hefyd Lywydd Addysg Uwch etholedig i gynrychioli
buddiannau'r myfyrwyr Addysg Uwch. Bydd Swyddogion Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda staff a myfyrwyr y colegau.
Byddant yn cyfrannu i bwyllgorau'r Coleg, i fforymau agored ac i baneli dysgwyr, gan gynrychioli'r dysgwyr ar
Fwrdd y Llywodraethwyr.
Yn Seremoni Wobrwyo UCM Cymru 2020 yn Aberystwyth yn ddiweddar, disgleiriodd Undeb y Myfyrwyr, gan ennill 4 allan
o'r 8 gwobr oedd ar gael! Derbyniodd Undeb Myfyrwyr gydnabyddiaeth yn genedlaethol am y drydedd flwyddyn yn
olynol, fel yr Undeb y Flwyddyn ar gyfer Myfyrwyr Addysg Bellach yng Nghymru. Cydnabu UCM Cymru waith caled yr
Undeb y Myfyrwyr yn ystod eu gweithgareddau ymgyrchu, yn ymgysylltu â dros 3,000 o fyfyrwyr mewn un tymor
academaidd, ar draws 12 campws a phedair sir.
Mae'r Coleg yn ffodus o fod yn un o'r ychydig Golegau Addysg Bellach sydd â llywyddion cyflogedig ar ei Undeb
Myfyrwyr.
Aelodaeth Undeb y Myfyrwyr
Pan fydd gwahanol sefydliadau'n cynnig gostyngiadau i aelodau UCM, gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Adnabod colegol
i ddangos eich bod yn aelod o'r undeb hwnnw. Os hoffech gael rhagor o fanteision, gallwch wneud cais am gerdyn
TOTUM. Bydd hwn yn rhoi rhagor o ostyngiadau i chi yn llawer o siopau'r stryd fawr. Gallwch ei ddefnyddio hefyd
i siopa ar-lein.
Os oes gennych gerdyn TOTUM, cewch gynigion arbennig gan ASOS, Spotify, Domino’s Pizza, boohoo a boohooMAN, i
enwi ond rhai.
Gall myfyrwyr presennol wneud cais am gerdyn TOTUM ar www.totum.com. Os hoffech gael cymorth i wneud hyn,
cysylltwch â Sarah Wynn Griffiths, Swyddog Cyfoethogi Profiad, bydd hi'n falch iawn o'ch helpu: s.wynngriffiths@gllm.ac.uk
Sut Gallwch Chi Gymryd Rhan
- Gwirfoddolwch fel Cynrychiolydd eich Campws neu fel Swyddog Gweithredol
- Cynigiwch eich enw i gynrychioli myfyrwyr eich cwrs
- Helpwch i drefnu clwb, cymdeithas neu ddigwyddiad cymdeithasol
- Helpwch i drefnu digwyddiadau ymgyrchu Undeb y Myfyrwyr
- Rhowch eich barn neu awgrymiadau i'ch Llywydd CHI
- Anogwch eich ffrindiau i gymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr
- Cadwch lygad am wahoddiadau i gyfrannu i grwpiau ffocws, fforymau, cynghorau myfyrwyr a phaneli dysgwyr!
Sut i gysylltu â'ch Undeb Myfyrwyr