Barn ein myfyrwyr
I glywed rhagor am yr hyn sydd gan y coleg i'w gynnig i chi, gwrandewch ar ein myfyrwyr yn siarad am eu profiadau ar ein tudalen YouTube.
Eich Cwrs
Os byddwch yn astudio gyda ni, byddwch yn dilyn eich Rhaglen Ddysgu eich hun, a fydd yn cynnwys:
- Cymhwyster galwedigaethol (e.e. NVQ, BTEC), neu,
- Nifer o bynciau Lefel AS/A2
Gall eich rhaglen hefyd gynnwys:
- Bagloriaeth Cymru
- Cymwysterau llythrennedd a rhifedd
- Cymwysterau galwedigaethol ychwanegol
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau
busnes
trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan
mewn gweithgareddau
ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Pa lefel sy'n addas i mi?
Pam ein dewis ni?