Noder: Er mwyn amddiffyn iechyd a lles ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, mae'n holl gyfleusterau cyhoeddus ar gau ar hyn o bryd.
Yn y rhan fwyaf o'r salonau, mae apwyntiadau ar gael yn ystod y dydd ac ar rai min nosau. Gan fod ar y myfyrwyr Gwallt a Harddwch wastad angen cleientiaid i gwblhau eu cymwysterau, mae'r drysau'n agored i'r cyhoedd, boed yn ddynion neu'n ferched.
Bydd rhai myfyrwyr sy'n gweithio mewn ambell salon eisoes wedi cymhwyso, ond yn parhau â'u hyfforddiant er mwyn dysgu rhagor o sgiliau. Am bris ychydig yn uwch, gall cleientiaid ofyn am gael steilio eu gwallt gan fyfyriwr cymwysedig.
Dolgellau
Coleg Meirion-Dwyfor

01341 424 922
Gall aelodau o'r cyhoedd drefnu apwyntiadau yn y Salon yn Nolgellau i gael amrywiaeth o wasanaethau trin gwallt, gan gynnwys ei dorri, ei liwio, ei chwyth-sychu neu ei byrmio. Gallwch hefyd wneud apwyntiad i gael triniaethau harddu fel siapio'ch aeliau, tylino'ch wyneb, ffeilio a phaentio'ch ewinedd, a thrin eich traed a'ch dwylo.
Dewch i wybod mwy
Salon Friars
Bangor

01248 383 313
Mae'r Salonau wedi'u lleoli yn adeilad hanesyddol Friars ym Mangor. Ymhlith y gwasanaethau trin gwallt a gynigir, mae lliwio, pyrmio, trin gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, a thorri gwalltiau dynion a merched. Ymhlith y triniaethau Harddwch a Therapi Cyfannol, mae lliwio blew llygaid, cael gwared ar flew a thriniaethau sba (tylino maldodus, therapi cerrig poeth a thylino'r pen yn y dull Indiaidd).
Dewch i wybod mwy
Salon The Graduate
Llandrillo-yn-Rhos

01492 542 321
Mae'r salonau modern yn llefydd ymlaciol i gael eich pampro. Mae'r gwasanaethau trin gwallt a gynigir i ddynion a merched yn amrywio o 'dorri a steilio' a barbro i drin gwallt ar gyfer achlysur arbennig (e.e. parti) a lliwio, gan gynnwys gwasanaeth cywiro lliw. Ymhlith y triniaethau harddu, mae trin yr wyneb, y dwylo a'r traed, coluro, cwyro a thylino.
Dewch i wybod mwy
Salon Clwyd
Y Rhyl

01745 345 827
Mae'r salonau modern yn llefydd ymlaciol i gael eich pampro. Ymhlith y gwasanaethau trin gwallt a gynigir, mae lliwio, pyrmio, trin gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, a thorri gwalltiau dynion a merched. Mae'r triniaethau harddu'n cynnwys trin y dwylo a'r traed, celfyddyd ewinedd, cwyro a lliwio blew llygaid ac aeliau.
Dewch i wybod mwy
Facebook
Dewiswch pa dudalen Facebook yr ydych eisiau ei weld: