Noder: Er mwyn amddiffyn iechyd a lles ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, mae'n holl gyfleusterau cyhoeddus ar gau ar hyn o bryd.
Pa un ai a ydych yn chwilio am ystafell fechan i gynnal cyfarfod busnes neu ystafell gynadledda fawr ar gyfer digwyddiad hyfforddi, mae gennym ystafelloedd o'r radd flaenaf i'w cynnig i chi. Gallwn drefnu'r ystafelloedd i fodloni eich gofynion chi, ar ffurf theatr, cyfarfod bwrdd, cabaret, sgwâr neu ystafell ddosbarth. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys cyfrifiadur gyda thaflunydd ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint, cyswllt diwifr i'r rhyngrwyd a thaflunydd tros ysgwydd. Mae'r ystafelloedd i gyd yn olau a cyfforddus a gallwn drefnu lluniaeth ar eich cyfer sy'n cyfateb i'ch cyllideb.
Y Ganolfan Ynni
Campws Llangefni
08445 460 460

Ystafell Gynadledda Un
Mae lle i hyd at 25 o westeion ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cynnal cyfarfodydd.
Ystafell Gynadledda Dau
Mae lle i hyd at 90 o westeion ac mae'n lleoliad gwych ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, a digwyddiadau a gweithgareddau grŵp.
Mae maes parcio i hyd at 200+ o gerbydau ar safle Llangefni a man gollwng hwylus y tu allan ar gyfer llwytho. Mae gennym hefyd lolfa Costa Coffee ar y safle lle mae byrbrydau a diodydd o ansawdd ar gael gydol y dydd.
Orme View
Campws Llandrillo-yn-Rhos
01492 546666 est. 1248

Ystafell Rhos
Mae lle i 30 o westeion os trefnir yr ystafell ar ffurf theatr neu 20 os caiff ei gosod ar gyfer cyfarfod bwrdd. Opsiwn arall yw uno Ystafell Rhos ag Ystafell Conwy er mwyn cael lle i hyd at 70 ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 30 mewn cyfarfod bwrdd.
Ystafell Madog
Yma mae lle i 60- 70 o westeion ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 40 ar ffurf sgwâr neu gyfarfod bwrdd.
Mae hefyd yn bosib llogi Bwyty'r Orme View ar gyfer cinio. Gall ddal hyd at 70 o bobl ac ar y cyd ag ystafelloedd Rhos, Conwy a Madog gall gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd llawn a sesiynau grŵp. I ginio, gallwch ddewis bwffe ysgafn neu bryd bwyd ffurfiol, gallwch gael tamaid wrth weithio neu gael hoe fach yn un o'n bwytai. Gallwn gadw llefydd parcio ar eich cyfer.
Facebook
Dewiswch pa dudalen Facebook yr ydych eisiau ei weld: