Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleoedd Cymraeg yn y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Wyt ti wedi clywed am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Mae'r Coleg Cymraeg yn sefydliad sydd eisiau rhoi mwy o gyfleoedd i ti astudio yn Gymraeg, os ydi hynny yn y coleg, neu hyd yn oed trwy brentisiaeth. Mae’r Coleg hefyd yn darparu adnoddau Cymraeg â chynnig Ysgoloriaethau i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae sicrhau fod digon o gyfleoedd cymdeithasol i ti ddefnyddio’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni; dyna pam mae rôl y Llysgenhadon a llais myfyrwyr yn greiddiol i’n gwaith. Clicia yma i gael gwybod mwy am y Coleg Cymraeg

Llysgenhadon

Ydi astudio a chymdeithasu yn Gymraeg yn bwysig i ti? Oes gen ti’r sgiliau i ysbrydoli dy ffrindiau i ddefnyddio’r Gymraeg, hyd yn oed os nad ydi nhw’n siarad Cymraeg? Wyt ti’n hyderus o flaen y camera ac ar y cyfryngau cymdeithasol? Alli di drefnu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg a bod yn lais i ddysgwyr y Coleg?

Rydym yn chwilio am Lysgennad Dysgwr i gynrychioli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Coleg. Os hoffet ti gael y cyfle i fod yn ran o gynllun cenedlaethol, heb sôn am gael £100 y flwyddyn a £13 yr awr, gwna gais yma. Dyddiad cau - 9 Hydref 2026.

I dy berswadio ymhellach, gwranda ar fideo ein Llysgenhadon y llynedd, neu, darllena am brofiad Alaw Robyns, Llysgennad Coleg Meirion - Dwyfor Pwllheli i gael dy ysbrydoli.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Beth ydy Llysgennad?

  • Unigolyn sydd yn barod i ysbrydoli eraill i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
  • Unigolyn sydd yn weithgar a brwdfrydig, ac yn barod i gynrychioli’r Coleg Cymraeg a’r Grŵp.
  • Unigolyn sydd eisiau cymryd rhan a threfnu digwyddiadau hwyliog, cymdeithasol Cymraeg.
  • Unigolyn sy’n barod i ennill £100 y flwyddyn a £13 yr awr am eu gwaith caled!
  • Unigolyn hyderus ac egniol sydd yn barod i helpu a datblygu’r iaith Gymraeg.
Llysgennad Coleg Cymraeg Cenedlaethol Alaw Robyns

Alaw Robyns - Llysgenad Coleg Meirion-Dwyfor

"Mae fy rôl fel Llysgennad yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymlith fy ngyd-ddysgwyr am yr holl fantesion yn yr coleg, drwy asdudio a hyfforddi drwy gyrfwng yr iaith Gymraeg a hefyd yn ddwyieithog. Y faintais cefais wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog oedd gallu gwella a datblygu fy sgiliau iaith ac ysgrifenedig yn bellach. Mae hyn yn hynod fanteisiol tuag at y dyfodol a thuag at cyfleoedd swyddi, y Brifysgol ag yn y gymuned. Fel Llysgennad, cefais lawer o gyfleoedd Cymraeg yn y Coleg, gan ddod i adnabod llawer o wahanol bobl drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a datblygu fy nefnydd o’r Gymraeg yn y Coleg."

Hoffet ti fod yn Lysgennad?

Ry ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig i hybu’r Gymraeg ar draws y Coleg.

Llenwa'r Ffurflen Gais a rho gynnig arni! Dyddiad cau - 09/10/26

Adnoddau dwyieithogar dy gyfer di!

Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael i’ch helpu chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y Coleg, megis y Porth, Adnoddau, Cysgeir a Geiriadur Prifysgol Bangor ond i enwi rhai. Mae’r holl adnoddau sydd ei angen arna ti ar y wefan Cefnogaeth gyda’r Gymraeg. Gwrandewch ar fideos byr sydd yn eich arwain drwy’r wefan ac yn esbonio’r holl fanteision o astudio’n ddwyieithog. Defnyddia’r poster isod i’th arwain at rai o’r adnoddau.

Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cynnwys dros 500 o adnoddau dros 30 pwnc gwahanol.

Dewch i wybod mwy

Ap Geiriaduron

Ap cyfieithu Saesneg-Cymraeg a Chymraeg-Saesneg ar gyfer eich ffôn symudol.

Dewch i wybod mwy

Geiriadur yr Academi

Geiriadur ar-lein sydd am ddim i’w ddefnyddio.

Dewch i wybod mwy

Meddalwedd Cysill Cysgeir

Helpu bobl rhugl, dysgwyr a phobl di-Gymraeg i ysgrifennu’n Gymraeg.

Dewch i wybod mwy

Cymraeg Gwaith / Work Welsh

Cwrs ar-lein i helpu fagu hyder siaradwyr rhugl.

Dewch i wybod mwy

Byd term Cymru

Casgliad o dermau sy’n cael eu defnyddio gan gyfieithwyr Llywodraeth Cymru.

Dewch i wybod mwy

Prentis-iaith

Cyrsiau byr ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle.

Dewch i wybod mwy

Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant i fyfyrwyr sydd yn awyddus astudio 40 credyd / 33% o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os wyt ti ar dy flwyddyn gyntaf ac mae dy gwrs di ar Chwilorydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg, beth am wneud cais a chael £500 am dair blynedd (neu hyd y cwrs).

I wybod pa gyrsiau’r Grŵp sy’n gymwys am yr Ysgoloriaeth, edrycha yma.

I wybod mwy am ysgoloriaethau’r Coleg, clicia’r ddolen yma.

Manteision Addysgu’n Ddwyieithog

Mae rhestr hirfaith o fanteision o astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg, megis y gallu i ddatblygu sgiliau meddwl uwch, manteisio ar ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a hyd yn oed atal dechreuad symptomau dementia.

  • Agor y drws i fwy o swyddi.
  • Codi dy hunan-hyder.
  • Ennill cyflog uwch.
  • Llwyddo’n well yn y coleg/prifysgol.

Manylion Cyswllt Ein Swyddogion

Sara Edwards

Sara Edwards

Swyddog Cangen CCC

Leusa Williams

Leusa Williams

Swyddog Cangen CCC a datblygu Dwyieithrwydd