Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymorth Ariannol a Chyllid i Ddysgwyr

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio.

Mae cael addysg a hyfforddiant yn haws nag a feddyliech chi. Mae sawl ffordd o gael help tuag at yr adnoddau fydd eu hangen arnoch chi i gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. Mae gennym ni dîm o gynghorwyr a fydd yn gallu eich rhoi chi ar ben ffordd. Gall y cymorth ariannol sydd ar gael gynnwys:

Myfywyr mewn llyfrgell yn astudio

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Os ydych chi rhwng 16 a 18 oed ac yn dilyn cwrs am fwy na 12 awr yr wythnos, mae'n bosibl y gallwch chi gael £40 yr wythnos. ⁠Mae'r LCA yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Cliciwch yma i lawrlwytho Ffurflen Gytundeb y LCA am 2025/26. (Awaiting this from SF).

Mae gwneud cais am y LCA yn hawdd - ⁠cliciwch y ddolen hon i ddechrau arni a gwnewch gais ar-lein (dyma'r ffordd gyflymaf!). Fel arall ewch i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr i nôl ffurflen gais bapur.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

Os ydych chi'n 19+ oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i'ch helpu chi gyda chostau eich cwrs. Bydd y swm a delir yn dibynnu ar incwm eich teulu ac ar nifer eich oriau astudio. ⁠Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar brawf modd, felly gofynnwch i dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Cliciwch yma i lawrlwytho Ffurflen Gytundeb Grant Dysgu Llywodraeth Cymru am 2025/26. (Awaiting this from SF).

Cewch ragor o wybodaeth am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru trwy fynd i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru lle gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais. Fel arall ewch i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr i ofyn am ffurflen gais.

Y Gronfa Cefnogi Dysgwyr

Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr ar gael i ddysgwyr cymwys sydd angen cymorth ariannol tuag at gostau dillad gwaith, offer, gofal plant, neu bryd bwyd. Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr yn cynnig cymorth i fyfyrwyr addysg bellach a all fod yn cael anhawster i dalu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'u cwrs. Gall gyfrannu tuag at gostau gwiriadau DBS, llety mewn hostel, gwisgoedd, citiau, offer, ffioedd stiwdio, rhai tripiau, cludiant, gofal plant, a hyd yn oed lwfans dyddiol ar gyfer pryd bwyd. Mae staff y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i roi cyngor a gwybodaeth ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i chi.

Bydd angen i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth o enillion eu cartref neu eu cymhwysedd i gael rhai budd-daliadau gyda'r ceisiadau hyn. Bydd y ffurflenni cais unigol yn rhoi rhagor o fanylion.

Lwfans Dyddiol ar gyfer Pryd Bwyd

I dderbyn y Lwfans Prydau Dyddiol, rhaid i chi fod yn astudio’n llawn amser ac yn 18 oed neu’n iau ar 31/08/25.

Rhaid hefyd eich bod wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim yn 2024/2025 neu fod eich aelwyd yn derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

Os yw eich aelwyd yn derbyn Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gyflwyno copi wedi’i argraffu o gyfrif Credyd Cynhwysol eich aelwyd.

I’r rhai sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim yn 2024/2025, os oes gennych lythyr gan y cyngor yn cadarnhau hyn, dylech gyflwyno copi gyda’ch cais am y Lwfans Prydau Dyddiol.

Ffurflen Lwfans Prydau Dyddiol

Pobl Ifanc â Phrofiad o fod mewn Gofal a Gofalwyr Ifanc

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach llawn amser sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal neu sy'n Ofalwyr Ifanc fod yn gymwys i gael cymorth ariannol, sy'n amodol ar bresenoldeb drwy gydol y flwyddyn. ⁠Dewch draw i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr i gael gwybod rhagor.

Cysylltwch â ni i gael gwybod rhagor

Os hoffech chi drafod y cymorth ariannol sydd ar gael neu weld a ydych chi'n gymwys, neu os ydych chi'n dioddef caledi ariannol, dewch draw i'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk.

Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Graddau

Bwrsarïau

Isod mae bwrsarïau Grŵp Llandrillo Menai sydd are gael i fyfyrwyr cymwys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â degrees@gllm.ac.uk.

Myfyrwyr addysg uwch ar ddiwrnod graddio

Bwrsari Dilyniant Uniongyrchol Grŵp Llandrillo Menai

Swm: £1000

Meini prawf: Pob myfyriwr sy'n symud ymlaen yn syth o raglen Lefel 3 i gwrs AU llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Ond ar gael i Fyfyrwyr ar flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.

Dyddiad talu: 100% ym mis Mai

Bwrsari Iaith Gymraeg (AU)

Swm: £300

Meini prawf: Pob myfyriwr sy'n astudio cyrsiau penodol yr addysgir rhannau sylweddol ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyddiad talu: 100% ym mis Mai

Bwrsari Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu MALIC

Swm: £300

Meini prawf: Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac y mae eu cod post mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf.

Dyddiad talu: 100% ym mis Mai

Profiad o fod mewn gofal

Swm: £300

Meini prawf: Pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs AU llawn amser ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dyddiad talu: Ar hyd y flwyddyn, yn amodol ar bresenoldeb.

Bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr (Cronfa Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu CCAUC)

Gall myfyrwyr Addysg Uwch o grwpiau a dangynrychiolir fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr i’w cynorthwyo i fynd ar brofiad gwaith a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i dyfodolmyfyrwyr@gllm.ac.uk

Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion Rhan-Amser

Gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio rhaglen o fodiwlau sy'n werth llai na 30 credyd fod yn gymwys i wneud cais am grant hepgor ffioedd CCAUC. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk.

Eithriad a gostyngiad ar Dreth y Cyngor

Ydych chi wedi ystyried a ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael gostyngiad ar Dreth y Cyngor? Edrychwch ar wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.

https://gov.wales/council-tax-discounts-and-reduction/students

Os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ostyngiad ar Dreth y Cyngor, gallwch ofyn am ffurflen 'Cadarnhau Statws Myfyriwr' gan y Coleg a fydd yn rhoi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig i'r Awdurdod Lleol. Siaradwch â staff yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.

Datganiad ar yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddir yr holl ddogfennau sy'n ymwneud ag ymgeisio am grant, bwrsariaeth neu gymorth ariannol i ymgeiswyr unigol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac nid ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r ceisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os bydd rhaid cyfweld ymgeiswyr unigol am grantiau neu gymorth ariannol, mae cyfweliadau ar gael yn Gymraeg ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais yn Gymraeg gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd os oes angen. Os cyflwynir cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, byddwn yn hysbysu'r ymgeisydd am ganlyniad ein penderfyniad yn Gymraeg.

Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu grant neu gymorth ariannol, rydym yn ystyried yr effeithiau y byddai dyfarniad neu gymorth o'r fath yn eu cael ar y cyfleoedd i'r ymgeiswyr a phobl eraill ddefnyddio'r Gymraeg ac rydym yn sicrhau na fyddai ein penderfyniad ni'n lleihau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith nac yn achosi effeithiau andwyol. Byddwn yn ystyried gweithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai'n cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio'r Gymraeg.