Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mae'r Siarter Myfyrwyr hwn yn berthnasol i holl fyfyrwyr Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai, waeth ym mha goleg y bônt yn astudio na pha sefydliad Addysg Uwch (AU) sy'n dyfarnu'r cymhwyster.

  • Mae'n ddatganiad o fwriad da sy'n disgrifio prif nodweddion y Cymunedau Dysgu mae'r Grŵp yn ceisio eu sefydlu. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol. Adolygwyd ddiwethaf: Ebrill 2026.
  • Yn y siarter, nodir yr hyn a ddisgwyliwn gennych ac eglurir eich cyfrifoldebau a'ch hawliau. Mae hefyd yn amlinellu beth y gallwch ei ddisgwyl gan y coleg yr ydych yn astudio ynddo, Coleg Llandrillo, Coleg Menai neu Goleg Meirion-Dwyfor.
  • Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) yn cynnwys cymunedau dysgu a nodweddir gan barch at ein gilydd, a lle mae ein myfyrwyr yn rhannu cyfrifoldeb cyfartal am ddatblygu a chynnal cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel.
  • Gweithia GLlM mewn partneriaeth agos â'i fyfyrwyr AU, Llywydd AU Undeb y Myfyrwyr a staff ehangach y coleg er mwyn cefnogi a chryfhau profiadau ein dysgwyr AU. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â'n myfyrwyr, gan ddefnyddio dulliau effeithiol i gyfathrebu a lledaenu gwybodaeth.
  • Darpara GLlM gyfleoedd a chymorth i astudio'n ddwyieithog a drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnig yn ddwyieithog amrediad eang o raglenni AU, gwasanaethau, tiwtorialau, dulliau cyfathrebu ac asesiadau, yn unol â Deddf a Safonau'r Iaith Gymraeg.
Myfyrwyr mewn seremoni raddio

Y Gymuned AU

Gallwch ddisgwyl i ni:

  • eich parchu fel unigolyn;
  • eich trin yn gyfartal, yn enwedig mewn perthynas â nodweddion a warchodir, oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, tueddiad rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil;
  • darparu cyfleoedd i gyfoethogi profiadau myfyrwyr drwy Undeb y Myfyrwyr, a gwasanaethau eraill i fyfyrwyr;
  • darparu Llywydd AU etholedig ar gyfer Undeb y Myfyrwyr i'ch cefnogi chi a chymuned AU ehangach GLlM;
  • darparu a hwyluso system i gynrychioli myfyrwyr, ynghyd â hyfforddiant addas i'r cynrychiolwyr hynny.

Byddwn yn disgwyl i chi:

  • barchu a thrin staff a chyd-fyfyrwyr yn gwrtais, a chynnal safonau ymddygiad uchel;
  • hybu, helpu i greu a chynnal amgylchedd ac awyrgylch sy'n ffafriol i ddysgu, ac ar yr un pryd, annog trin pawb yn gyfartal;
  • helpu i hyrwyddo cymuned AU drwy gymryd rhan mewn cyfleoedd cyfoethogi;
  • cymryd rhan weithredol yn yr etholiad i ddewis Llywydd AU, ethol myfyriwr i gynrychioli'ch rhaglen AU chi a bod yn rhan o brosesau cyfathrebu cynrychiolwyr y myfyrwyr.

Cyfathrebu

Gallwch ddisgwyl i ni:

  • ddarparu gwybodaeth glir mewn Polisi ynghylch Ffioedd Dysgu am ffioedd dysgu a bwrsarïau ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut a phryd y dylech dalu, yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a darparu gwybodaeth am unrhyw gostau ychwanegol ar bob tudalen sy'n sôn am gyrsiau AU;
  • darparu mynediad i reoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd sy'n rhoi manylion ynghylch disgwyliadau GLlM a'r corff dyfarnu, ynghyd â chefnogaeth;
  • darparu gwybodaeth a chymorth o ran y polisi cwynion a'r gweithdrefnau cwyno, ac os ydych yn anfodlon â chanlyniad y gweithdrefnau hyn o eiddo GLlM, darparu gwybodaeth ar sut a phryd y dylid cysylltu â'r corff neu'r sefydliad dyfarnu, ac os oes angen wedi hynny, â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol;
  • galluogi myfyrwyr i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ynghylch unrhyw un o wasanaethau GLlM ac i gael tiwtor personol sy'n gallu rhoi cefnogaeth iddynt yn eu dewis iaith, lle bo'n bosibl;
  • darparu gwybodaeth glir am eich rhaglen, yn cynnwys Llawlyfr Rhaglen ar-lein sy'n cynnwys manylion am strwythur eich cwrs, y staff, cynnwys, manylion y modiwlau, dulliau cyflwyno a dulliau asesu;
  • gweithio mewn partneriaeth er mwyn dal ati i wella'ch cwrs, y coleg a'r gwasanaethau, gan ddarparu amrediad o gyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth, yn cynnwys drwy system gynrychiolwyr strwythuredig.

Byddwn yn disgwyl i chi:

  • roi sylwadau adeiladol a gwerthuso'ch rhaglen, eich coleg a'r gwasanaethau fel y bo angen. Er enghraifft, gall hyn fod:
    • yn drafodaethau parhaus gyda chynrychiolydd eich dosbarth, a gyda'ch tiwtoriaid;
    • drwy brosesau ffurfiol fel mynychu cyfarfodydd adolygu cwrs a chwblhau gwerthusiadau modiwlau a chwrs, yn cynnwys yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sy'n cymharu'n darpariaeth â gweddill y wlad yn ystod eich blwyddyn astudio olaf;
    • rhoi i gynrychiolydd eich dosbarth a/neu i Lywydd AU Undeb y Myfyrwyr adborth i'w gyflwyno pan fyddant yn mynd i baneli'r myfyrwyr AU.
  • ceisio datrys unrhyw gwynion a allai fod gennych drwy siarad yn uniongyrchol â'r unigolyn neu'r unigolion sydd dan sylw i ddechrau, ac yna ag Arweinydd eich Rhaglen neu'ch Tiwtor Personol;
  • rhoi gwybod i Arweinydd y Rhaglen, y Tiwtor Personol a/neu Diwtor y Modiwl am unrhyw anawsterau yr ydych yn eu cael gyda'ch astudiaethau, er enghraifft salwch, problemau dysgu ac ati;
  • gofyn am gyngor yn syth os yw'ch cynnydd academaidd yn peri pryder i chi neu'r staff sy'n eich addysgu;
  • rhoi gwybod i Arweinydd y Rhaglen, y Tiwtor Personol a/neu Diwtor(iaid) y Modiwl os na allwch gyflwyno aseiniad mewn pryd neu os na allwch fod yn bresennol mewn arholiad;
  • os ydych am bledio amgylchiadau sy'n lleihau eich bai neu amgylchiadau lliniarol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Ffurflen Amgylchiadau sy'n Lleihau Bai yn cael ei chwblhau'n gywir a'i chyflwyno cyn y dyddiad cau, un ai drwy Arweinydd eich Rhaglen neu'ch Tiwtor Personol, yn unol â rheoliadau'r Sefydliad AU sy'n dyfarnu'r cymhwyster yr ydych yn astudio tuag ato.
Adeilad Canolfan y Brifysgol

Datganiad ynghylch Gwarchod Buddiannau Myfyrwyr

Bydd GLlM yn cefnogi'r myfyrwyr drwy warchod eu buddiannau mewn amgylchiadau fel newidiadau sylweddol i gwrs, er enghraifft newid corff dyfarnu, neu ddiddymu cwrs. Bydd y myfyrwyr yn cael cymorth i ddeall eu hawliau o ran parhau hyd ddiwedd y cwrs a ddilyswyd yn wreiddiol, neu i drosglwyddo i gwrs arall.

Dysgu, Addysgu ac Asesu

Gallwch ddisgwyl i ni:

  • ddarparu cyfleoedd i chi ddysgu'r Gymraeg neu i wella'ch sgiliau Cymraeg mewn dosbarthiadau, neu drwy raglenni AU dwyieithog penodol, yn cynnwys cyfleoedd i gyflwyno asesiadau a chael adborth, lle bo'n bosibl, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'r hyn a ategir yn Safonau'r Gymraeg a gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • darparu adnoddau astudio a dysgu addas i chi ar gyfer eich rhaglen;
  • darparu mynediad i chi i gymorth academaidd addas;
  • rhoi gwybodaeth i chi am sut i baratoi a chyflwyno gwaith eich aseiniad;
  • rhoi dyddiadau clir ar gyfer cyflwyno gwaith, a sut y caiff aseiniadau eu gwasgaru;
  • rhoi adborth i chi ar eich cynnydd a'ch cyflawniadau ar adegau y cytunwyd arnynt, asesu gwaith yn deg a'i ddychwelyd o fewn amser penodol.

Byddwn yn disgwyl i chi:

  • fodloni gofynion y cwrs o ran mynychu sesiynau sydd ar yr amserlen, cyflawni'r gwaith a osodir a rhoi gwybod i diwtoriaid pam eich bod yn absennol;
  • cymryd rhan weithredol yn eich astudiaethau drwy ymgysylltu â'ch cyd-fyfyrwyr a'ch tiwtoriaid ynghylch pob agwedd ar eich cwrs, yn cynnwys yr addysgu, yr asesu a'r gwerthuso;
  • manteisio ar wahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a bod yn gyfrifol, ar y cyd â'ch tiwtoriaid, am ddatblygu'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch galluoedd;
  • os oes angen, ceisio eglurhad am feini prawf asesu a sut maent yn berthnasol i bob modiwl;
  • cyfeirnodi'ch gwaith yn llawn a phriodol gan ddefnyddio'r dull academaidd y cytunwyd arno;
  • cyflwyno gwaith i'w asesu ar amser, gan gadw at y fformatau a'r arddulliau a nodwyd ym mriffiau'r aseiniadau, a sicrhau nad ydych yn dilyn unrhyw arferion annheg;
  • cadw at reoliadau'r Grŵp.

Taith y Dysgwr, Diogelu a Chymorth

Gallwch ddisgwyl i ni:

  • ddarparu gwybodaeth glir am y gwasanaeth cymorth sydd ar gael, gan GLlM ac asiantaethau trydydd sector, i sicrhau bod dysgwyr yn medru cael gwybodaeth a gwasanaethau sy'n rhoi cefnogaeth bersonol ac academaidd;
  • darparu Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr sy'n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol;
  • darparu amgylchedd diogel, cyfeillgar a chynhwysol o ran diogelu;
  • diogelu'r holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych, gan gydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch, diogelu a chyfrifoldebau o ran diogelu a rheoli data'n gyffredinol;
  • neilltuo ar eich cyfer diwtor personol a fydd yn darparu cefnogaeth fugeiliol, yn ogystal ag arweiniad academaidd;
  • eich cefnogi yn eich astudiaethau ac wrth fynd ati i bennu targedau, a gyda'ch datblygiad personol;
  • darparu gwasanaeth sy'n eich cefnogi a'ch paratoi i wneud dewisiadau sy'n cyfateb i'ch amcanion gyrfaol;
  • darparu rhaglenni sy'n datblygu gwybodaeth a sgiliau a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich gyrfa ddewisedig;
  • eich cynorthwyo i ddeall y sgiliau cyflogadwyedd yr ydych wedi eu meithrin yn ystod eich cwrs.

Byddwn yn disgwyl i chi:

  • gymryd sylw o'r wybodaeth a gewch er mwyn i chi fod yn llwyr ymwybodol o'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i chi;
  • rhoi gwybod i ni'n ddiymdroi am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol, bydd hyn yn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhyngoch chi a'r coleg a bod eich enw a'ch manylion yn gywir ar y dystysgrif a ddyfernir i chi;
  • deall y rhan sydd gennych chi i'w chwarae yn y broses o greu amgylchedd diogel, cyfeillgar a ffafriol i ddysgu;
  • mynd ati i geisio adnoddau penodol a phriodol i ategu'ch dysgu;
  • ystyried yn ofalus y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi er mwyn cael y cyfle gorau posibl i gyflawni'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol;
  • defnyddio'r gwasanaethau gyrfaol sydd ar gael i chi;
  • cydnabod y sgiliau cyflogadwyedd yr ydych yn eu meithrin yn ystod eich cwrs.
Myfyrwyr yn dathlu graddio ar y promenâd yn Llandudno

Datganiad ynghylch Iechyd a Lles

Mae GLlM wedi ymrwymo i hybu lles ac iechyd y myfyrwyr, yn cynnwys eu hiechyd meddwl, ac i hyrwyddo dulliau atal hunanladdiad. Mae gan GLlM amrywiaeth o bolisïau, yn cynnwys Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr sydd wedi hen ennill ei blwyf, er mwyn hyrwyddo ffyrdd o fyw a dewisiadau iach a darparu strategaethau ymyrryd i'w defnyddio pan ganfyddir risgiau posibl.

Darperir rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr ar ôl cofrestru ar borth y dysgwyr, eDrac Dysgwyr, ac yn ystod y cyfnod cynefino a drwy'r rhaglen gyfoethogi. Mae hyn yn cynnwys medru defnyddio Hwb Iechyd a Lles i Fyfyrwyr sy'n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth GLlM, gweithgareddau a manylion asiantaethau trydydd sector.

Cysylltiadau

Mae pob dolen yn y Siarter yn mynd â chi i wybodaeth ychwanegol fel polisïau, cysylltiadau neu wybodaeth fanylach. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Siarter, cysylltwch â:

  • E-bost Undeb y Myfyrwyr: studentunion@gllm.ac.uk
  • Llywydd Addysg Uwch Undeb y Myfyrwyr: HESUPresident@gllm.ac.uk

Ebrill 2026