Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 (DUAA)

Mae Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 yn ddeddfwriaeth bwysig a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 19 Mehefin 2025 i gyflwyno newidiadau graddol yn y Deyrnas Unedig yn ystod 2026. Mae'n moderneiddio rheoliadau data'r Deyrnas Unedig drwy ddiweddaru Deddf Diogelu Data 2018, GDPR y DU, a Rheoliadau PECR 2003 i symleiddio'r broses o gydymffurfio, hyrwyddo arloesedd economaidd, a diogelu hawliau unigolion.

Un o'r hawliau yw'r hawl i gael gwybod, sy'n golygu bod yn rhaid i ni roi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn defnyddio, rhannu a storio eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cyhoeddi hysbysiadau preifatrwydd fel y gallwch gael mynediad at y wybodaeth hon, ynghyd â gwybodaeth am yr hawliau sydd gennych mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r sail gyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Mae ein Hysbysiadau Preifatrwydd yn ymddangos isod;

Diogelu Data

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn anelu at weithredu mewn modd agored ac yn gwbl atebol. Ymhlith y cyfoeth o wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes gan y Grŵp, mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn galluogi chi i ofyn am wybodaeth bellach gan gyrff cyhoeddus fel ni, yn ôl yr angen.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000...

  • wedi bod yn gyfreithlon mewn grym ers Ionawr 1af, 2005
  • yn rhoi hawli bawb o fewn a thu allan y Grŵp i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gan y Grŵp a'i cholegau
  • yn cwmpasu holl gofnodion a gwybodaeth ddigidol a phrint a gedwir gan Grŵp Llandrillo Menai boed yn gyfredol neu archif
  • Mae amodau ac eithriadau lle nad oes angen i wybodaeth gael ei rhyddhau a ni ddylid ei rhyddhau.

Cynllun Cyhoeddi'r Grŵp

I helpu gydag ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cydymffurfio â Chynllun Cyhoeddi safonol y sector sydd â manylion am y mathau o wybodaeth y mae'r Grŵp yn darparu fel mater o drefn i'r cyhoedd a sut y gall y cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth. Mae'n cynnwys pethau fel strwythurau a threfniadaeth y Coleg, ei wasanaethau a'i weithdrefnau, arferion, a chanllawiau. O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan y cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth nad yw wedi'i chynnwys yn y cynllun cyhoeddi Coleg.

Mae cyfrifoldeb am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn sefyll gyda Chyfarwyddwr Llwyodraethu'r Grŵp.

I gyflwyno naill ai Cais Rhyddid Gwybodaeth neu Gais Mynediad at Ddata i Grŵp Llandrillo Menai, anfonwch eich cais at: t.prosser@gllm.ac.uk neu data@gllm.ac.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://ico.org.uk/for-the-public/