Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr o Goleg Llandrillo yn torri tir newydd i Gymru gyda Buddugoliaeth Ddwbl yn Zest Quest Asia

Nid yn unig y daeth tri myfyriwr Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol o Goleg Llandrillo'r tîm cyntaf o golegau Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth goginio Zest Quest Asia yn ddiweddar, ond daethant â dwy wobr adref hefyd.

Cystadlodd Tesni Young sy'n ddeunaw, a Hugo Loh ac Arthur Kinnerley-Williams sy'n ddwy ar bymtheg, yn erbyn timau o saith coleg arall yn Lloegr i ddod â dwy wobr ardderchog adref:

  • Y Defnydd Gorau o Bopty Cyfunol Cyflym Panasonic – gan ennill popty newydd i'r coleg, yn ogystal â dosbarth meistr arbennig i’r myfyrwyr, sef taith Dashi mewn Kaiseki Japaneaidd gan y Cogydd Akemi.

  • Y Defnydd Gorau o Saws Wystrys Lee Kum Kee – gwobr o gyflenwad tri mis o saws wystrys premiwm a thiwtorial byw i’w gyflwyno yng Ngholeg Llandrillo.

Yn ystod y gystadleuaeth heriol yn Llundain ar 9 a 10 Ebrill, rhoddodd y triawd gyflwyniad ugain munud ar eu prydau a'r rhanbarth o ddwyrain Asia yr oeddent yn ei gynrychioli. Roedd ganddynt hefyd arddangosfa fwrdd thematig a oedd yn arddangos eu cysyniad. Yna fe wnaethon nhw lwyddo i gynhyrchu bwydlen pedwar cwrs mewn dwy awr, wrth gael eu holi gan y beirniaid. Rhoddodd y profiad gyfle i'r myfyrwyr ddangos eu gallu technegol, eu trefniadaeth a'u gwaith tîm rhagorol o dan bwysau.

O'r chwith i'r dde, Hugo Loh, Arthur Kinnerley-Williams a Tesni Young gyda'u tiwtor, Glen Hughes, yn Noson Gala a Chinio Gwobrwyo Zest Quest Asia yn yr Hilton London Wembley

Lansiwyd Zest Quest Asia gyntaf yn 2013. Mae hon yn gystadleuaeth goginio sydd wedi'i chynllunio ar gyfer timau coleg. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu harbenigedd, eu creadigrwydd, eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o fwyd Asiaidd. Eleni, Coleg Llandrillo oedd y coleg cyntaf o Gymru i gymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Zest Quest Asia.

Dywedodd Glen Hughes, Darlithydd yn y Diwydiannau Gwasanaethu yng Ngholeg Llandrillo: “Dw i mor falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. Mae eu hymroddiad wedi bod yn eithriadol. Maen nhw wedi rhoi o'u hamser eu hunain yn gyson, gan ddod i mewn ar eu diwrnodau rhydd i ymarfer, mireinio prydau a pherffeithio eu sgiliau. Roedd y lefel honno o ymrwymiad yn amlwg iawn yn eu perfformiad.

Mae perfformio ar y lefel hon mewn cystadleuaeth genedlaethol yn gamp enfawr, ac fe wnaethon nhw gynrychioli'r coleg gyda phroffesiynoldeb, creadigrwydd a balchder drwyddi draw.”

Llongyfarchiadau mawr i Tesni, Hugo ac Arthur - am gamp!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes arlwyo? Edrychwch ar yr ystod o gyrsiau a'r cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf sydd ar gael gan Grŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering