Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Yn ddiweddar, croesawodd Grŵp Llandrillo Menai Arweinydd Plaid Cymru a'r Aelod o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth i gampws Bangor i ddangos yr effaith gadarnhaol mae addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ei chael ar draws colegau'r Grŵp.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddangos sut mae Grŵp Llandrillo Menai yn ehangu cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i fyfyrwyr, prentisiaid a staff, diolch i gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r cynllun yn rhan o ymdrech genedlaethol ehangach i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg, yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.

Yn ystod yr ymweliad, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cafodd dysgwyr a phrentisiaid gyfle i rannu eu profiadau personol, gan esbonio sut mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog wedi eu helpu i feithrin sgiliau gwerthfawr ac wedi arwain at gyfleoedd gyrfa newydd.

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i fanteisio ar gyfleoedd dysgu dwyieithog o ansawdd uchel. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 20250, tra hefyd yn cryfhau'r agenda sgiliau genedlaethol.

Yn ôl Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau:

"Mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn rhan annatod o'n cenhadaeth i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial tra hefyd yn cryfhau'r Gymraeg mewn addysg ac yn y gweithle. Drwy ein partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni wedi gallu ehangu'r cyfleoedd i ddysgwyr a phrentisiaid astudio a hyfforddi drwy'r Gymraeg neu'n ddwyieithog, gan eu helpu i feithrin sgiliau gwerthfawr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

"Roedd yr ymweliad yn gyfle pwysig i ddangos yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad cynaledig mewn addysg cyfrwng Cymraeg ei chael. Bydd cefnogaeth gyson yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu datblygu'r ddarpariaeth ymhellach gan alluogi hyd yn oed rhagor o ddysgwyr i feithrin y sgiliau dwyieithog sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fwyfwy gan gyflogwyr ledled Cymru. Diolch i Rhun ap Iorwerth am ddod i ymweld â ni."

Yn ogystal, tanlinellodd yr ymweliad bwysigrwydd addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg wrth gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Pwysleisiodd y drafodaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad yr angen am barhad mewn cydweithio rhwng y sector addysg drydyddol a llywodraeth nesaf Cymru. Ymysg y prif flaenoriaethau a nodwyd roedd cryfhau'r gefnogaeth ariannol i golegau i ehangu llwybrau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gan wella'r cydgysylltiad rhwng strategaeth y llywodraeth a'r sector addysg drydyddol, a chynyddu nifer y dysgwyr a fydd yn gallu cynnig sgiliau dwyieithog yn y gweithle.

Drwy ddod â llunwyr polisïau, addysgwyr a dysgwyr at ei gilydd, roedd yr ymweliad yn gyfle gwerthfawr i ddangos yr effaith wirioneddol mae buddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ei chael ac i atgyfnerthu cyfraniad addysg bellach at gefnogi dyfodol y Gymraeg a gweithlu dwyieithog medrus.