Artistiaid Coleg Menai'n rhagori yn y Lle Celf
Gwaith dau gyn-fyfyriwr ynghyd â gwaith Technegydd Celf o Goleg Menai yn cael ei arddangos yn y Lle Celf, a Cushla Rose Luxton yn ennill yr Ysgoloriaeth Artist Newydd.
Cafodd gwaith Cushla Rose Luxton, Barnaby Prendergast a'r Technegydd Celf, Gwyn Williams, ei ddewis i gael ei arddangos yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Roedd 300 o artistiaid wedi ymgeisio, ond dim ond 39 a gafodd eu dewis i fod yn rhan o'r arddangosfa derfynol.Yn Eisteddfod y Garreg Las enillodd Cushla, sy'n un ar hugain oed ac yn un o gyn-fyfyrwyr y cwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Ysgoloriaeth Artist Newydd 2026. Meddai: "Dw i wedi gwirioni bod fy ngwaith wedi cael y fath ymateb ac yn ddiolchgar iawn am y fraint o gael arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol."
Barnaby Prendergast, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a Glynllifon, oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Dewi Bowen yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 a chafodd gyfle i arddangos ei waith yn y Lle Celf eleni.
Astudiodd Barnaby, sy'n dair ar hugain oed, Goedwigaeth a Choedyddiaeth yng Nglynllifon, cyn mynd ymlaen i ddilyn y cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mangor.Oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y celfyddydau? Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch i'n gwefan i weld y cyrsiau celf amrywiol sydd ar gael yn y Grŵp: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...