O Ddechreuadau Nerfus i Ffynnu yn y Coleg
Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, mae Maddie, sy'n fyfyrwraig trin gwallt, yn rhannu sut y gwnaeth cefnogaeth a phenderfyniad ei helpu i oresgyn ei hofnau, a magu hyder yn y coleg.
Fel person awtistig, roedd Maddie yn nerfus iawn am ddod i amgylchedd newydd, ond ers dechrau yn y coleg fis Medi diwethaf, all hi ddim credu pa mor bell mae hi wedi dod, a faint mae ei bywyd wedi newid!
Roedd yn anodd iddi ar y dechrau gan ei bod yn poeni am wneud ffrindiau a bod mewn mannau anghyfarwydd, ond lai na blwyddyn yn ddiweddarach ac mae Maddie yn ffynnu ar ei chwrs trin gwallt. Mae hi hyd yn oed wedi bod yn ddigon dewr i rannu ei stori i ysbrydoli eraill sy'n ystyried dewis y coleg fel eu cam nesaf.
“Os ydych chi wir eisiau ei wneud o, mi allwch chi,” meddai hi. “Mae’n rhaid i chi roi eich meddwl arno fo!”
“Pan ddois i yma gyntaf, ro'n i'n meddwl ‘Alla i ddim ei wneud o’, a ro'n i eisiau gadael,” meddai Maddie. “Ond mae’r gefnogaeth yma wedi bod yn wych a dydw i erioed wedi bod yn hapusach,” ychwanegodd.
Mae Mentoriaid Cynhwysiant y coleg yma i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Maen nhw'n gallu eu helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer dysgu annibynnol ac ar gyfer cyflawni eu hamcanion academaidd.
““Mae fy mentor cynhwysiant yma wedi fy helpu i ddod yn bell iawn,” meddai Maddie. Dw i'n gwneud rhywbeth dw i wrth fy modd yn ei wneud, ac mae gen i gefnogaeth drwy'r amser. Dydw i erioed wedi bod yn hapusach.”
Dywedodd Louise Flanagan, Mentor Cynhwysiant Maddie: "Pan wnes i gyfarfod Maddie yn ystod ei hymweliad pontio, roedd hi'n amlwg yn bryderus ynglŷn â dechrau yn y coleg ar ôl cael profiadau heriol yn yr ysgol uwchradd. Drwy gefnogaeth wedi'i theilwra, hunanymwybyddiaeth, a phenderfyniad, mae hi wedi magu'r hyder a datblygu'r annibyniaeth i ffynnu. Mae creu a rhannu'r fideo hwn yn adlewyrchiad pwerus o'i gwydnwch a'i thwf. Rydyn ni'n hynod falch o bopeth y mae hi wedi'i gyflawni."
I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a'r help sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol wrth iddyn nhw symud o'r ysgol i'r coleg, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/student-hub/additional-learning-needs-aln
Gallwch wylio Maddie yn siarad am ei bywyd yn y coleg yma: