Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr o Grŵp Llandrillo Menai yn Cynrychioli Team UK yn WorldSkills Shanghai 2026

Talodd y gwaith caled a’r ymroddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ei ganfed wrth i Madeleine, Peter a Yuliia gystadlu yn erbyn rhai o’r gweithwyr proffesiynol ifanc gorau o bob cwr o’r byd.

Dangosodd Madeleine Warburton (Coleg Llandrillo a phrentis i RWE) ei thalent mewn Ynni Adnewyddadwy yn WorldSkills Shanghai. Roedd hi'n un o 13 o gystadleuwyr a gafodd Fedal am Ragoriaeth, sy'n dynodi iddi gyflawni safonau o'r radd flaenaf.

Cyrhaeddodd Yuliia Batrak, myfyriwr Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol Lefel 3 (Coleg Llandrillo), yr 16eg safle yn y sgiliau yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty.

Roedd Peter Jenkins sy'n gyn-fyfyriwr o Goleg Menai, yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai ac yn cystadlu ochr yn ochr â Pratham Lohia, myfyriwr Gradd Meistr ym Mhrifysgol Middlesex, yng nghystadleuaeth heriol Integreiddio Systemau Robotiaid. Llwyddodd i gyrraedd y 13eg safle.

Mae WorldSkills, sy'n cael ei adnabod fel y "Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau", yn gystadleuaeth sy'n dwyn ynghyd myfyrwyr galwedigaethol a phrentisiaid gorau'r byd i arddangos talent dechnegol elitaidd ar draws amrywiaeth eang o feysydd sgiliau ar lwyfan rhyngwladol.

Mae'r gystadleuaeth yn profi'r cystadleuwyr elitaidd mewn cyfres o heriau ymarferol trylwyr a gynlluniwyd i adlewyrchu'r byd go iawn ac i feincnodi safonau diwydiant byd-eang.

Enillodd Team UK ddwy fedal aur, un fedal arian a thair medal efydd yn y 'Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau'.

Dyma berfformiad cryfaf Team UK ers 2017, pan gynhaliwyd y digwyddiad yn Abu Dhabi, gyda Team UK yn dod yn seithfed (allan o 69) o ran cyfartaledd y pwyntiau a sgoriwyd.

Daeth Rowndiau Terfynol WorldSkills i ben ddydd Sul diwethaf gyda seremoni gloi ysblennydd yn Arena Mercedes Benz oedd dan ei sang.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Dyma set o ganlyniadau gwych, a dylai pawb yn y Deyrnas Unedig fod yn falch ohonyn nhw.

“Mae pob un o’r tîm wedi gwneud ymdrech arwrol – nid yn unig yr wythnos hon, ond am y tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhan o'r broses, yn cystadlu, yn dysgu ac yn datblygu eu sgiliau.

“Mae bod yn rhan o’r mudiad sgiliau rhyngwladol anhygoel hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r arbenigedd i ni i helpu miloedd o ddysgwyr ifanc ledled y Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer y byd gwaith.

Llongyfarchiadau i holl gystadleuwyr Grŵp Llandrillo Menai. Am gyflawniad gwych, a phrofiad unwaith mewn oes.

Da iawn hefyd i Bryn a Geraint, ein staff a deithiodd i Shanghai fel Rheolwyr Hyfforddi, i gefnogi cystadleuwyr Team UK.