Cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi'i ddewis i gynrychioli Team UK yng nghystadleuaeth WorldSkills Shanghai 2026
Cyn-fyfyriwr o Goleg Menai i gynrychioli Tîm y Deyrnas Unedig yn WorldSkills 2026: Mae Peter Jenkins, peiriannydd o Gaergybi, wedi sicrhau ei le yn y "Gemau Olympaidd Sgiliau" mawreddog yn Shanghai ym mis Medi eleni.
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a dreuliodd oriau yn rhaglennu braich robotig a roddwyd iddo yn anrheg Nadolig wedi gwireddu breuddwyd beirianyddol. Mae Peter Jenkins, sy'n wreiddiol o Gaergybi, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Team UK yn rowndiau terfynol WorldSkills 2026 - y "Gemau Olympaidd Sgiliau" - a gynhelir yn Shanghai, Tsieina, ym mis Medi eleni.
Bydd Peter yn cystadlu gyda Pratham Lohia, myfyriwr Gradd Meistr ym Mhrifysgol Middlesex, yng nghystadleuaeth heriol, Integreiddio Systemau Robotiaid. Gyda'i gilydd, bydd y ddau yn mynd benben â meddyliau technegol ifanc gorau'r byd, gan arddangos eu harbenigedd mewn rhaglennu, integreiddio systemau, peirianneg rheolyddion, a datrys problemau diwydiannol.
O'r chwith i'r dde, Pratham Lohia, Peter Jenkins, a'r hyfforddwraig roboteg Karla Kosch. Llun: Prifysgol Middlesex
Mae'r siwrnai i Shanghai wedi bod yn brawf o wydnwch i Peter
Ar ôl ennill medalau arian yn rowndiau cenedlaethol Cymru a'r DU yn 2024, yn anffodus ni chafodd ei ddewis i gystadlu yn rowndiau rhyngwladol y gystadleuaeth.
Roedd yn benderfynol o beidio rhoi'r ffidl yn y to, ac felly mentrodd mewn disgyblaeth hollol wahanol - Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen. Llwyddodd i ennill medal arian arall yn rowndiau Cymru, ac wrth baratoi i gystadlu yn rowndiau cenedlaethol y DU am yr eildro, cafodd alwad ffôn annisgwyl yn ei alw i garfan roboteg y DU.
"Ges i sioc fawr o glywed fy mod wedi cael fy newis ar gyfer Team UK," meddai Peter. "Mae wedi bod yn siwrnai a hanner hyd yma. Doeddwn i byth yn meddwl y byddai'n digwydd i mi. Fe wnaeth Coleg Menai fy nghefnogi drwy’r cyfan, ac rydw i'n parhau i gael yr un gefnogaeth hyd heddiw, er fy mod wedi gadael y coleg erbyn hyn.”
O’r ystafell ddosbarth i gyflymyddion gronynnau
Sbardunwyd angerdd Peter am roboteg pan oedd yn blentyn. Cafodd gyfle i ddatblygu a mireinio’i sgiliau ymhellach yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Menai, lle denodd ei dalent naturiol sylw ei diwtoriaid yn gyflym.
"Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn peirianneg a roboteg," eglurodd Peter. "Pan oeddwn i'n ifanc, cefais fraich robotig oedd angen ei adeiladu yn anrheg Nadolig a threuliais oriau di-rif yn ei rhaglennu i wneud gwahanol bethau. Fe wnes i gwblhau modiwl roboteg wrth astudio yng Ngholeg Menai, a dyma le cefais fy newis i gystadlu yn rowndiau Cymru am fy mod i'n 'sefyll allan' o weddill fy nosbarth.
Erbyn heddiw, mae Peter yn defnyddio'r sgiliau hynny wrth weithio ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel prentis gyda'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) yn Labordy Daresbury. Yno, mae'n gwneud gwaith technegydd a pheirianneg ar gyfer gwyddoniaeth cyflymydd gronynnau, gan gynnwys gyda phrosiect proffil uchel "HiLumi" i uwchraddio'r Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr (LHC) yn CERN.
"Mae gweithio yn STFC wedi rhoi'r sgiliau technegol a'r wybodaeth arbenigol sydd eu hangen arnaf i ragori mewn roboteg," meddai Peter, sydd hefyd yn cwblhau cymhwyster NVQ Lefel 4 ar hyn o bryd.
Paratoi am Her yn Shanghai
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Peter wedi ymroi ei hun i raglen hyfforddi ddwys a llafurus, gan neilltuo wythnos bob mis i feistroli platfform roboteg ddiwydiannol FANUC. Mae ei baratoadau eisoes wedi ei arwain ledled Ewrop, gan gynnwys i gystadleuaeth ryngwladol heriol yn Hwngari, lle cystadlodd yn erbyn timau cenedlaethol o Awstria a Hwngari.
Mae Peter yn priodoli llawer o'i gynnydd i'w hyfforddwr ymroddedig, Karla, a chefnogaeth Prifysgol Middlesex, lle mae wedi bod yn hyfforddi gyda Pratham.
"Mae Karla bob amser yn gwneud ei gorau i'n cefnogi ni ac mae eisiau gwthio ei myfyrwyr ymhellach nag yr oeddent erioed wedi meddwl oedd yn bosibl." meddai Peter. "Mae Prifysgol Middlesex wedi bod yn anhygoel, gan aros ar agor i ni hyfforddi ar benwythnosau, benthyg offer i ni, a darparu cefnogaeth i'r staff academaidd i sicrhau ein bod ni ar ein gorau."
Mae llwyfan y byd yn aros
Gyda chefnogaeth WorldSkills UK ac mewn partneriaeth â Pearson, mae Team UK yn cynrychioli rhagoriaeth alwedigaethol a thechnegol Prydain. Disgwylir i'r ornest derfynol yn Shanghai ddenu mwy na 250,000 o ymwelwyr, ochr yn ochr ag arweinwyr y diwydiant byd-eang ac arbenigwyr addysg.
Wrth i fis Medi nesáu, mae Peter a Pratham yn dechrau ar eu paratoadau olaf a fwyaf dwys hyd yma. I ddyn ifanc o Gaergybi a ddechreuodd ei siwrnai gyda braich robotig o dan y goeden Nadolig, mae'r wobr eithaf bellach o fewn cyrraedd.