Dydi hi byth yn rhy hwyr: Newid gyrfa yn arwain at wobrau i Catrina Sheltinga
Doedd Catrina Sheltinga, sy'n nyrs filfeddygol, ddim wedi disgwyl y byddai'n gallu gweithio yn y diwydiant milfeddygol. Ond mae bellach wedi cael ei chydnabod â'r anrhydeddau uchaf ar ôl dychwelyd i addysg yn ddiweddarach yn ei bywyd.
Cafodd Catrina ei henwi yn Brentis Nyrsio Milfeddygol y Flwyddyn yn 2026 ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i dderbyn gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am ei harbenigedd yn ei maes dewisol. Yn gyn-brentis, mae Catrina hefyd yn fam i dri ac yn nain i ddau, ac mae'n profi nad yw cael teulu yn golygu rhoi'r gorau i'ch uchelgais. Roedd hi wastad wedi bod eisiau gweithio gydag anifeiliaid, ond tra roedd ei phlant yn ifanc, roedd gofynion hyfforddi ar gyfer gyrfa o'r fath yn teimlo allan o'i chyrraedd. Ond roedd y diddordeb yn dal i fod yno, a phan ddaeth yr amser yn iawn, dewisodd ddilyn prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Roedd y brentisiaeth yn caniatáu iddi ennill cyflog tra roedd hi'n dysgu mewn practis milfeddygol go iawn, gan gyfuno theori â phrofiad ymarferol. “Mi wnes i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol oherwydd fy mod i wastad wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant milfeddygol, ac ro'n i'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn i gyflawni. Mae'r brentisiaeth yn cynnig cydbwysedd o theori a dysgu ymarferol – roedd y theori yn fy helpu i ddeall y rôl yn iawn, a chaniataodd y gwaith ymarferol i mi roi'r wybodaeth honno ar waith. “Yn y cyfnod hwnnw, do'n i ddim yn siŵr a fyddwn i’n gallu cyflawni’r hyn dw i wedi'i wneud erbyn hyn. Mae'r brentisiaeth wedi fy ngalluogi i wireddu fy nod o weithio mewn practis milfeddygol. Ers cwblhau'r brentisiaeth, dw i wedi symud ymlaen i fod yn Brif Nyrs y practis a dw i rŵan yn cefnogi myfyrwyr newydd fel hyfforddwr clinigol.” Mae Catrina bellach yn gweithio yn Wern Vets yn Llanrwst, lle ychwanegodd Gwen Evans, Rheolwr y Practis: “Rydym yn hynod falch o Catrina am gymhwyso fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig. Mae ei thaith wedi golygu blynyddoedd o ddysgu, o ymrwymiad, ac o benderfyniad - mae wedi bod yn hyfryd gweld ei sgiliau a'i hyder yn tyfu drwy gydol ei hyfforddiant. Mae Catrina'n mynd at ei gwaith gyda brwdfrydedd a thrugaredd, ac mae hi'n haeddu bob llwyddiant. “Mae prentisiaethau’n hynod werthfawr i’n practis ni, gan eu bod yn caniatáu i unigolion ddysgu wrth ennill profiad go iawn mewn amgylchedd clinigol prysur. Mae gwylio prentisiaid yn datblygu yn eu gwybodaeth, eu hyder a'u sgiliau ymarferol dros gyfnod yn werth chweil ac yn helpu i sicrhau'r proffesiwn ar gyfer y dyfodol. Mae llwyddiant Catrina yn enghraifft wych o ba mor effeithiol a phwysig y gall y llwybr prentisiaeth fod.” Mae prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o ddiwydiannau ac maent ar agor i oedolion mewn cyflogaeth sy'n awyddus i wella eu sgiliau neu newid gyrfa, yn ogystal â'r rhai sy'n gadael yr ysgol a'r coleg — Dydi oedran, cyfnod mewn bywyd na phrofiad ddim yn rhwystr. I gael rhagor o wybodaeth: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/apprenticeships |