Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr chwaraeon o Fôn yn chwifio'r faner dros Gymru a Choleg Menai ym Mhencampwriaethau Prydain

Yn ddiweddar, cipiodd i Ela Haf Williams deitl pencampwr Tymblo a Foltio ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Cymru yng Nghaerdydd. Bydd Ela'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Prydain ar 3 Mai yn Stoke on Trent.

"Dw i'n hapus iawn ac yn falch iawn fy mod i wedi ennill teitl Pencampwr Cymru mewn cystadleuaeth yn erbyn 23 o gystadleuwyr cryf eraill," meddai Ela, sy'n dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

"Y gystadleuaeth nesaf i mi fydd Pencampwriaethau Tymblo Prydain yn Stoke on Trent ar 3 Mai. Dw i'n teimlo'n gyffrous iawn ac yn eithaf nerfus am y gystadleuaeth nesaf, mae'n un mawr i mi. Dw i hefyd yn teimlo'n falch iawn o gael cynrychioli Coleg Menai a Chymru," dywedodd Ela.

Ychwanegodd, "Dw i wedi bod yn hyfforddi'n galed, dair gwaith yr wythnos gyda fy hyfforddwyr yn y clwb gymnasteg, Clwb Gymnasteg Ynys Môn, er mwyn perffeithio fy nhechneg tymblo.

Mae Ela ar flwyddyn gyntaf ei chwrs yng Ngholeg Menai ac mae hi'n teimlo bod y cwrs wedi ei chynorthwyo i wella ei dealltwriaeth o sut mae'r corff yn gweithio a sut mae defnyddio'r wybodaeth i berfformio hyd eithaf ei gallu.

"Mae hyn y cynnwys dysgu sut i wella dulliau hyfforddi, pa gamau i'w cymryd i atal anafiadau, sut i ymadfer a manteision maeth a hydradu," meddai Ela.

"Mae'r cwrs wedi fy helpu i wella ffocws wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau, ac mae hynny yn ei dro wedi gwella fy mherfformiad drwyddi draw," ychwanegodd.

Cyngor Ela ar gyfer unrhyw un sy'n meddwl dilyn cwrs ym maes y diwydiant chwaraeon ydy "Cer amdani". Wrth drafod cynnwys ymarferol a gwyddonol ei chwrs nododd hefyd: "Mae'r tiwtoriaid yn gefnogol ac yn ystyrlon ac mae'r lleoliad a'r cyfleusterau yn ardderchog!"

Dywedodd Catherine Smith, Rheolwr Maes Rhaglen Iechyd a Gofal, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Menai:

⁠ "Mae hyn yn gyflawniad ardderchog, mae pawb yn falch iawn ohonot Ela. Mae hi wedi dangos ymrwymiad llwyr i'w champ ac i'w hastudiaethau, mae wedi bod yn bleser i'w chefnogi ar ei thaith. Rydym wedi ymrwymo fel coleg i gynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu nodau, yn y dosbarth neu ar lwyfan cenedlaethol, ac mae llwyddiant Ela yn dyst i'r ymroddiad hynny.

Mae Ela eisoes wedi cyflawni nifer o bethau, yn cynnwys cynrychioli Ynys Môn ddwywaith yng Ngemau'r Ynysoedd (Guernsey 2023 ac Orkney 2025), ac mae llawer o gyflawniadau pellach i ddod, rydym yn sicr o hynny.

Ewch i'r wefan i ddysgu rhagor am y cyrsiau chwaraeon sydd ar gael ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...