Sêr Pêl-droed y Dyfodol yn Disgleirio yn Nhwrnamaint yr Urdd yng Ngholeg Llandrillo
Roedd y cae 3G yng Ngholeg Llandrillo yn llawn bwrlwm yr wythnos diwethaf wrth i 250 o blant ysgolion cynradd Conwy gystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed yr Urdd.
Mewn rownd derfynol gyffrous, daeth Ysgol Bod Alaw o Fae Colwyn i'r brig, gan drechu Ysgol San Siôr o 4–2. Bydd y ddau dîm yn mynd i Rownd Derfynol Genedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 20 Mehefin. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod i Ezra o Ysgol Bod Alaw oedd cael ei enwi yn chwaraewr y twrnamaint.
Roedd y digwyddiad hefyd yn brofiad dysgu ymarferol pwysig i fyfyrwyr y cwrs Chwaraeon Lefel 2 yng Ngholeg Llandrillo, wrth iddynt ddyfarnu'r holl gemau ar y diwrnod, a chynorthwyo gyda'r trefniadau a chadw amser.
Meddai Riley Patterson, myfyriwr sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon: "Fe wnes i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn pan o'n i'n iau, felly mae bod yma'n helpu heddiw yn deimlad braf. Mae'n brofiad gwych ac yn braf gweld sut mae pethau’n gweithio o'r ochr arall."
Mae'r twrnamaint a drefnir gan yr Urdd ar gyfer bechgyn a merched ym mlynyddoedd 5 a 6. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn ar gae 3G Coleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Eleni daeth 25 o dimau o ysgolion cynradd ledled Sir Conwy i gystadlu yn y gynghrair.
Mae'r twrnamaint hefyd yn gyfle i blant, staff coleg a myfyrwyr ymarfer eu Cymraeg, beth bynnag fo'u gallu yn yr iaith.
Dywedodd Marc Thomas, Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd: "Roedd clywed cymaint o blant yn mwynhau eu diwrnod ac yn defnyddio'r Gymraeg yn wych. Mae ein cydweithrediad â'r coleg yn werthfawr iawn; mae chwaraewyr yn elwa o gael dyfarnwyr o'r ansawdd uchaf, tra bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol fel gwaith tîm a chyfathrebu ac yn ennill profiad o gynnal digwyddiad chwaraeon ar raddfa fawr."
Roedd safon y cyfleusterau wedi plesio Mr Price, Athro Blwyddyn 4 a Dirprwy Bennaeth Ysgol San Siôr: "Rydyn ni bob amser yn cael y gofal gorau yng Ngholeg Llandrillo. Gwnaeth y myfyrwyr waith ardderchog yn dyfarnu, ac roedd y plant wrth eu bodd â'r profiad. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at fynd i Aberystwyth ar gyfer y rownd derfynol."
Ydych chi'n barod i ddechrau eich stori gyda ni? Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser a rhan-amser gyda Grŵp Llandrillo Menai. Ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/full-time-further-education i gael rhagor o wybodaeth.