Anrhydeddu Tony Fitzmaurice, Asesydd Busnes@LlandrilloMenai yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru 2026
Mae Tony Fitzmaurice, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith wedi cael ei gydnabod am ei ymroddiad a'i arweinyddiaeth, gan ennill gwobr Efydd yng nghategori Model Rôl y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru.
Mae'r seremoni flynyddol, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 8 Gorffennaf yng ngwesty 4* y Vale Resort ym Mhont-y-clun, yn dathlu cyn-filwyr y Lluoedd Arfog sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol i'w cymunedau a'u gweithleoedd ar ôl camu yn ôl i fywyd sifil.
Cafodd Tony ei enwebu gan ei ffrind sy'n swyddog yn y Fyddin, yr Uwchgapten Rachel Gibbs, gyda thystiolaeth ychwanegol gan ei gydweithwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mae Tony yn gyn-filwr balch, ac mae wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo'r Lluoedd Arfog o fewn y sefydliad, gan gynnwys annog y Grŵp i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog.
Wrth siarad am ei wobr, rhannodd Tony ei werthfawrogiad wrth adfyfyrio ar arwyddocâd y noson:
"Mae bod yn gyn-filwr yn bwysig iawn i mi ac yn rhywbeth rwy'n falch iawn ohono... Roedd cael fy nghydnabod a'm henwebu yn brofiad arbennig iawn. Ond, gwnaeth clywed straeon gan fy nghyd-gyn-filwyr yn ystod y seremoni wobrwyo wneud i mi sylweddoli cymaint mwy y gallwn i, ac y dylwn i, ei wneud.
"Roedd yn noson wirioneddol ysbrydoledig a ddangosodd bwysigrwydd cyn-filwyr mewn gweithleoedd ac yn y gymuned — dathliad o'r gorau o blith cyn-filwyr milwrol y wlad. Rwy'n falch o gynrychioli cyn-filwyr Cymru a'r Grŵp, ac yn bwriadu parhau i weithio'n galed."
Mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn tynnu sylw at y sgiliau gwerthfawr, y gwydnwch a'r ysbrydoliaeth y mae cyn-filwyr yn eu cynnig i sefydliadau sifil, gyda modelau rôl fel Tony yn arwain y ffordd i'r rhai a fydd yn gadael y Lluoedd Arfog yn y dyfodol.
Llongyfarchiadau, Tony, ar y cyflawniad haeddiannol hwn!