Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tiwtor o adran Chwaraeon Coleg Menai yn rhedeg Marathon Llundain i godi arian i'r Gymdeithas Strôc

Ddeng mlynedd ar ôl cael strôc a newidiodd ei fywyd, trodd Marc Williams garreg filltir bersonol yn sialens i godi arian i wasanaethau gwella ar ôl cael strôc.

Ddydd Sul, ar ôl misoedd o hyfforddi, rhedodd Marc Williams sy'n Diwtor Chwaraeon a Hyfforddwr Pêl-droed yng Ngholeg Menai, Farathon Llundain 2026 gan godi arian hanfodol i’r Gymdeithas Strôc.

Ddeng mlynedd yn ôl, yn 43 oed, cafodd y cyn-bêl-droediwr proffesiynol strôc ddifrifol a newidiodd ei fywyd. Fel cyn-athletwr a oedd yn mwynhau cadw'n heini ac yn iach, nid oedd Marc yn meddwl bod cael strôc yn rhywbeth a fyddai'n digwydd iddo ef, ond "gall unrhyw un gael strôc", meddai.

Roedd Marc eisiau rhedeg y marathon i dynnu sylw at sut i adnabod arwyddion cynnar strôc ac i ysbrydoli eraill sydd ar eu teithiau eu hunain i wellhad.

Teimlodd Marc wendid yn ei fraich dde wrth yrru adref o'r gwaith un noson yn 2016. Ni chymerodd fawr o sylw i ddechrau. Nid oedd yn ystyried strôc gan nad oedd ei leferydd yn aneglur. Ar ôl profi pinnau bach yn ddiweddarach y noson honno, doedd Marc dal heb godi'r ffôn ond mynnodd ei wraig ei fod yn ffonio'r meddyg.

Cafodd ei ruthro i'r ysbyty a chafodd driniaeth thrombolysis. Er bod ei arhosiad yn yr ysbyty yn fyr, roedd y ffordd i wella’n hir. Roedd Marc yn cael trafferth gyda blinder, yn enwedig wrth siarad â phobl.

"Mae’n anodd ei esbonio i bobl sydd heb fynd drwyddo," meddai. Rydych chi'n mynd o fod yn annibynnol i fod angen help.”

Mae Marc yn rhoi clod i'w wraig a'i deulu am fod yn angor iddo drwy gydol ei adferiad.

"Heb eu cefnogaeth nhw byddai wedi bod yn llawer anoddach. Roedden nhw'n fy atgoffa i arafu pan oedd angen i mi wneud hynny."

Mae Marc hefyd yn ddiolchgar i'r Gymdeithas Strôc am fod yno i'w gefnogi a'i helpu i ailadeiladu ei fywyd. Bydd yr arian y mae wedi'i godi yn eu cynorthwyo i ddal ati i helpu eraill ar y ffordd i wella a hefyd yn ariannu ymchwil i driniaethau ataliol a thriniaethau adsefydlu.

Yn ogystal â chodi arian hanfodol, roedd Marc hefyd eisiau i'w lwyddiant yn y marathon ddangos y gall pobl wella ar ôl cael strôc.

"Dw i wedi mwynhau hyfforddi ar gyfer y marathon, " meddai. "Mae wedi bod yn brofiad hynod werthfawr."

Er nad oes ganddo gynlluniau i redeg marathon arall, bydd yn cynnal ei lefelau ffitrwydd ac yn parhau â'r newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw a ddaeth yn sgil ei hyfforddiant.

"Dw i’n teimlo’n fwy egnïol ac yn fwy brwdfrydig nag erioed, " meddai. "Mae wedi bod yn daith sydd wedi cryfhau fy iechyd corfforol a fy llesiant yn gyffredinol."

Llongyfarchiadau Marc, am gamp a hanner!

Os hoffech chi gyfrannu at dudalen codi arian Marc, ewch i: https://events.stroke.org.uk/fundraisers/marclloydwilliams/london-marathon-2026-charity

Cewch ragor o wybodaeth am atal strôc a sut i gael cefnogaeth i chi eich hun neu i rywun annwyl ar wefan y Gymdeithas Strôc: https://www.stroke.org.uk/stroke?_gl=1*aaqvmr*_up*MQ..*_gs*MQ..&gclid=CjwKCAjwnZfPBhAGEiwAzg-VzAgeDjlFooShDXkWI0l6tDsDvZbRJgGmyqo3d31lN4Tl4tALhrx51hoCPLEQAvD_BwE&gclsrc=aw.ds&gbraid=0AAAAADAXu2q5ooOy09YIQfCgg1A8kpc7I