Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y cynllun Cymraeg Gwaith yn mynd o nerth i nerth yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, rydym yn falch iawn o gyhoeddi llwyddiant y cynllun Cymraeg Gwaith AB ymysg staff Grŵp Llandrillo Menai.

Bwriad y prosiect yw datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn colegau Addysg Bellach. Y nod yw gweithio gydag isafswm o 210 o ddarlithwyr addysg bellach ar hyd a lled Cymru gyda phob un yn cwblhau 120 awr o wersi Gymraeg. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth ColegauCymru.

Mae 56 aelod o staff wedi cofrestru ar y cynllun eleni gan gynnwys staff gweinyddol, staff cefnogi busnes, darlithwyr, aseswyr, rheolwyr ac uwch reolwyr, yn amrywio o ddechreuwyr llwyr hyd at ddysgwyr hyderus.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynllun y llynedd pan wnaeth 11 aelod o staff gwblhau eu harholiadau CBAC yn llwyddiannus.

Dywedodd Siân Pritchard, Tiwtor Cymraeg Proffesiynol.

"Rydw i'n falch iawn o'n cyfranogwyr Cymraeg Gwaith. Maen nhw wedi gweithio'n andros o galed i wella a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae'n bleser eu cefnogi a'u gweld yn datblygu hyder wrth siarad Cymraeg – daliwch ati bawb!'”

Yn ystod y flwyddyn academaidd bydd y cynllun yn cynnig gwersi am ddwy awr bob wythnos, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol a sesiynau anffurfiol.

Dyma ddywedodd Salah Berdouk, Pennaeth Cynorthwyol Diwydiannau Cyfrifiadura a Chreadigol, Adeiladu a Pheirianneg, Coleg Llandrillo, sydd wrthi’n dilyn y cwrs Cymraeg Gwaith:

“Rwyf wedi dechrau dysgu Cymraeg nid yn unig i fy helpu gyda fy ngwaith, ond hefyd oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu iaith y wlad sydd wedi bod yn gartref i mi ers rhai blynyddoedd bellach. Mae gallu dechrau sgwrsio yn Gymraeg yn y gwaith wedi fy helpu i ffitio i mewn yn well ac wedi fy herio yn ddeallusol.”

Dywedodd Valerie Johnson o adran Gwasanaethau i Ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

“Rwyf wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda’r coleg ers symud i Gymru yn 2017. Fel dechreuwr llwyr mae hyn wedi bod yn heriol ond hefyd yn bleserus iawn. Mae gennym grŵp hyfryd ac athro rhagorol, amyneddgar a gwybodus. Mae hyn wedi fy helpu’n fawr yn fy ngwaith ac ar ôl pasio arholiad yn gynharach eleni mae hefyd wedi bod yn werth chweil.”