Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

O'r Llwyfan i Lawr y Dosbarth: Taith Mared i Addysgu yng Ngholeg Meirion-Dwyfor⁠

Mae'r llwybr o berfformio ar lwyfan i ysbrydoli eraill yn yr ystafell ddosbarth wedi bod yn un gwerth chweil a thrawsnewidiol i Mared.

Bellach yn astudio ar gyfer ei TAR yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, mae Mared yn enghraifft wych o sut y gall addysg uwch (AU) mewn coleg lleol agor drysau a'ch cadw mewn cysylltiad â'ch cymuned.

Cwblhaodd Mared, sy'n hanu o Lan Ffestiniog, radd BA a gradd Meistr mewn Theatr Gerdd yng Nghaerdydd. Pan ddaeth hi'n bryd iddi gymryd y cam nesaf i fyd addysgu, gwnaeth benderfyniad a fyddai'n caniatáu iddi gydbwyso ei huchelgais ag ystyriaethau ymarferol.

“Mi ddewisais Dolgellau oherwydd ei fod yn lleol i mi, ac felly yn llawer rhatach na mynd i ffwrdd i’r brifysgol,” eglurodd. “Mae’r dosbarth yn llawer llai hefyd, felly mae pawb ar eu hennill.”

Mae astudio’n lleol yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi golygu y gall Mared fwynhau profiad dysgu mwy personol, gyda dosbarthiadau llai a chefnogaeth uniongyrchol gan diwtoriaid. Mae hi'n mynd i'r coleg ar brynhawniau Llun ac Iau, gan gyfuno ei hastudiaethau â phrofiad addysgu gwerthfawr.

“Roedd y broses ymgeisio yn syml ac yn llyfn iawn,” meddai. “Mi wnes gais a chael cyfweliad yn gyflym.”

Mae cefnogaeth gan staff y coleg wedi chwarae rhan hanfodol yn nhaith Mared. Fel rhan o'i chwrs, roedd angen i Mared ennill oriau addysgu ymarferol. Roedd bod yn rhan o amgylchedd y coleg yn golygu nad oedd ganddi unrhyw broblem yn sicrhau'r oriau angenrheidiol, gan fod y staff wrth law i helpu.

“Maen nhw wedi fy nghefnogi bob cam o’r ffordd,” meddai Mared. “Dw i'n addysgu ar y cyrsiau celfyddydau perfformio ar fore Llun a bore Gwener, ac rwyf hefyd yn cyflwyno modiwl sgiliau cyflogadwyedd yn CaMDA, y ganolfan adeiladu a pheirianneg yn Nolgellau – rhywbeth na ddychmygais i erioed y byddwn yn ei wneud, ond dw i wrth fy modd.”

Mae cwrs Mared eisoes wedi arwain at gyfleoedd cyffrous. Mae hi wedi cael cynnig rôl addysgu ran-amser yn y coleg, yn gweithio gyda myfyrwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith - tystiolaeth o’r cysylltiadau cryf sydd rhwng astudio a chyflogaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Dywedodd Eleri Saunders Davies, Rheolwr Maes Rhaglen Sgiliau Bywyd a Gwaith Coleg Meirion-Dwyfor: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â’r rhaglen TAR/AU i ddarparu profiadau addysgu ystyrlon i athrawon dan hyfforddiant. Mae cyfleoedd fel hyn yn caniatáu i hyfforddeion ddatblygu eu sgiliau mewn amgylcheddau real a chefnogol, a chael effaith wirioneddol ar fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r cydweithio rhwng adrannau yn creu profiadau dysgu cyfoethog a chynhwysol i fyfyrwyr ac i athrawon dan hyfforddiant.

Ochr yn ochr â'i hastudiaethau ac addysgu, mae Mared hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i'w chymuned. Mae hi'n cynnal sesiynau canu ac actio i oedolion ag anawsterau dysgu yn Seren, elusen a menter gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog, gan gyfuno ei hangerdd dros berfformio â'i harbenigedd addysgu.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad hyd yn hyn, mae Mared yn glir ynglŷn ag effaith ei phenderfyniad: “Mae’r cwrs wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy mywyd.”

P'un a ydych chi newydd ddechrau ar eich taith AU neu'n edrych i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig dewis amgen i lwybrau prifysgol traddodiadol, un sy'n gefnogol, yn hyblyg, ac yn canolbwyntio ar yrfa.

Mae taith Mared yn dangos nad oes rhaid i chi symud i ffwrdd i symud ymlaen — gallai eich dyfodol fod yn lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cyrsiau AU sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/degrees-higher-education