O Chwarae i Greu: Taith Summer i fyd Datblygu Gemau
Fel rhan o Wythnos Ymlaen i’r Dyfodol yng Ngholeg Llandrillo, rydyn ni'n dathlu taith Summer i fyd Datblygu Gemau.
Gan ddechrau'n syth o'r ysgol, neidiodd Summer i fyd gemau cyfrifiadurol gyda chwrs Lefel 3 - ac mae'n benderfyniad sydd wedi llunio ei dyfodol mewn ffyrdd nad oedd hi erioed wedi eu disgwyl.
“Pan o'n i yn yr ysgol ro'n i'n poeni mai fi fyddai'r unig ferch,” meddai. “Doedd gan yr un o fy ffrindiau ddiddordeb mewn gemau. Ond nid felly oedd hi o gwbl.”
Mewn gwirionedd, daeth Summer o hyd i amgylchedd croesawgar a chefnogol — ac yn ei dosbarth roedd chwech o ferched eraill hyd yn oed!
“Roedd yn anhygoel,” ychwanegodd. “Ro'n i wrth fy modd efo'r awyrgylch. "Dw i'n hoff iawn o'r bobl yma. Maen nhw'n ffrindiau am oes," meddai Summer.
Mynd ymhellach na'r disgwyl
Wnaeth Summer ddim rhoi'r gorau iddi ar lefel 3. Mae hi wedi parhau â'i haddysg hyd at Lefel 5 — gan feithrin ei sgiliau, magu hyder, a sefydlu ei huchelgeisiau gyrfa ar hyd y ffordd.
“Un o’r pethau gorau am ddod yma ydy y gallwch chi aros a gwneud gradd,” eglurodd. “Dw i'n gallu byw gartref, arbed arian, a pharhau i ddysgu gyda thiwtoriaid dw i’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw'n barod.”
Gyda dosbarthiadau llai a chefnogaeth gadarn gan diwtoriaid, mae'r myfyrwyr yn cael mwy nag addysg yn yr ystafell ddosbarth yn unig.
“Drwy ein tiwtoriaid rydyn ni’n cael llwyth o gyfleoedd i rwydweithio â phobl yn y diwydiant. Mae wedi fy helpu i ddatblygu — yn enwedig yn fy hyder a fy sgiliau cymdeithasol.”
Mwy na chodio
Os ydych chi'n meddwl bod datblygu gemau yn golygu eistedd o flaen sgrin yn codio drwy'r dydd, meddyliwch eto.
“Mae’n hwyl,” meddai Summer. “Mae pobl yn meddwl mai rhaglennu ydy o i gyd, ond dim ond am ychydig o oriau’r wythnos dw i'n gwneud hynny. Mae'r gweddill yn greadigol — dylunio cymeriadau, adeiladu bydoedd, meddwl am syniadau.”
O ddylunio cymeriadau i adrodd straeon a chelf weledol, mae datblygu gemau yn faes chwarae creadigol - ac mae Summer yn manteisio arno i'r eithaf.
Dod o hyd i ysbrydoliaeth
I Summer, mae yna ysbrydoliaeth ym mhobman.
“Dw i’n chwarae gemau ac yn edrych ar lawer o’r cyfryngau — o fanno dw i'n cael llawer o fy syniadau,” meddai. “Yna dw i'n gweithio gyda fy nhiwtoriaid i ddatblygu pethau fel silwetau, y cyfansoddiad, a dylunio'r lliw.”
Y cymysgedd hwn o greadigrwydd ac arweiniad arbenigol sy'n helpu i droi'r syniadau yn brofiadau ac yn gemau go iawn i'w chwarae.
Uchelgais fawr, yn agos at adre
Felly beth nesaf? Mae gan Summer gynlluniau mawr.
"Dw i' bwriadu dechrau fy nghwmni fy hun yn ystod y flwyddyn nesaf ,” meddai. “Dw i eisiau aros yng Ngogledd Cymru oherwydd does 'na ddim llawer o stiwdios gemau yma.”
I gael gwybod rhagor am y cyrsiau Datblygu Gemau sydd gan Grŵp Llandrillo Menai a ble gallan nhw eich arwain, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...