Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn rasio i rownd derfynol genedlaethol

Timau'r coleg a disgyblion o ysgolion lleol yn creu argraff yng nghystadleuaeth Rasio STEM Gogledd Cymru.

Mae myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor a disgyblion o ysgol leol a gefnogir gan y coleg wedi cyflawni canlyniadau rhagorol yn rowndiau terfynol rhanbarthol Rasio STEM Gogledd Cymru eleni. Bydd dau dîm yn symud ymlaen i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU yn ddiweddarach y mis hwn.⁠ ⁠ ⁠

Yn Ninbych, cymerodd cyfanswm o 39 o'n myfyrwyr ran yn y gystadleuaeth oedd yn cynnwys 18 tîm o bob cwr o Ogledd Cymru.

Mae STEM Racing UK yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n dysgu myfyrwyr i ddylunio, gwneud, profi a rasio ceir bach. Mae hyn yn dysgu sgiliau byd go iawn iddynt, ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes peirianneg a STEM.

Llwyddiant yn y Dosbarth Proffesiynol

Cystadlodd dau dîm o fyfyrwyr, sy'n astudio ar gyfer cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn y Dosbarth Proffesiynol, gan rasio eu ceir bach tebyg i rai Fformiwla 1 i lawr trac 20 metr mewn ychydig dros eiliad.

Gorffennodd y Rapid Rebels, o gampws Pwllheli, yn ail gan groesi'r llinell mewn 1.553 eiliad. Byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yn Rownd Derfynol Genedlaethol STEM Racing UK yn Rotherham ar 25-26 Mawrth. Daeth DAFAD Racing, o gampws Dolgellau, yn drydydd agos iawn, gyda dim ond 0.002 eiliad yn gwahanu'r ddau dîm.

Roedd y canlyniadau'n adlewyrchu misoedd o waith caled gan y myfyrwyr gyda chefnogaeth eu noddwyr, Carl Kammerling International, Milliput, REHAU Limited a Major Owen.

Meddai Emlyn Evans, Darlithydd Peirianneg ac arweinydd Rasio STEM yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Rhoddodd y ddau dîm berfformiadau gwych ar y diwrnod. Roedd hi'n anhygoel o agos ac roedd y rasio yn gyffrous iawn i'w wylio. Dylai'r myfyrwyr fod yn falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni.”

Fel rhan o'r gystadleuaeth, rhaid i'r timau wneud llawer mwy na dim ond rasio eu ceir. Mae'r myfyrwyr yn trefnu eu hunain fel cwmni bach, gan ymgymryd â rolau fel rheolwr prosiect, peiriannydd dylunio, arweinydd marchnata a rheolwr cyllid. Maen nhw'n dylunio eu ceir gan ddefnyddio meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) proffesiynol, yn creu portffolios peirianneg a menter ac yn cyflwyno eu gwaith i feirniaid.

“Mae'r myfyrwyr yn sefydlu eu timau, yn creu brand ac yn dod o hyd i nawdd. Mae'n brofiad dysgu gwych ac yn rhywbeth y gallan nhw ei gynnwys mewn ceisiadau prifysgol neu geisiadau prentisiaeth,” parhaodd Emlyn.

Rapid Rebels

Buddugoliaeth yn y Dosbarth Datblygu

Cymerodd myfyrwyr o'r cwrs Peirianneg Lefel 3 ar gampws Pwllheli ran yn y Dosbarth Datblygu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol.
Daeth Timau Draig a Peregrine Racing, sy'n cynnwys chwe myfyriwr yr un, benben â phum tîm arall. Ar ôl cyflwyno portffolio cryf a pherfformio'n wych ar y trac, gorffennodd Tîm Draig yn gyntaf, gan sicrhau eu lle yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol STEM Racing UK yn Rotherham. Gyda chefnogaeth eu noddwyr Peckish Takeaway ym Mhwllheli, Major Owen, Stihl a 'Trac Môn', creodd Tîm Draig frand a oedd yn apelio at y beirniaid.

Tîm Draig a Peregrine Racing

Cefnogi myfyrwyr iau

Roedd pedwar tîm Dosbarth Mynediad o ysgolion lleol yn y gystadleuaeth hefyd, gyda chefnogaeth Coleg Meirion-Dwyfor trwy'r rhaglen 14–16 ar gampws Hafan ym Mhwllheli.

  • Cymerodd myfyrwyr o bedair ysgol ran:
  • Hyperline Racing – Ysgol Glan y Môr
  • M-Rol Racing – Ysgol Ardudwy ac Ysgol Botwnnog
  • Porthmadog Bulldogs – Ysgol Eifionydd
  • Monocoque – Ysgol Botwnnog

Fel rhan o'u huned CAD yn y coleg, dyluniodd ac adeiladodd y myfyrwyr eu ceir rasio bach eu hunain.

Enillodd y Porthmadog Bulldogs wobr am y car oedd wedi ei ddylunio orau yn y Dosbarth Mynediad, tra bod Monocoque wedi cipio tlws 'dewis y beirniad' am gyfraniad rhagorol yn y gystadleuaeth.

Meddai Emlyn: “Mae hi wedi bod yn bleser gweld peirianwyr ifanc o’r pedair ysgol yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth heriol hon. Mae cyrraedd y gystadleuaeth yn cymryd llawer iawn o waith ac ymrwymiad, gan eu bod yn dibynnu ar ei gilydd i weithio fel tîm.”

Ceir dosbarth mynediad

Fyddai hyn ddim yn bosibl heb ein noddwyr

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n noddwyr! Eich cefnogaeth chi wnaeth hi'n bosibl i'r holl dimau gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae'n gyfle gwych sy'n rhoi profiad a sgiliau fydd yn para oes i'r myfyrwyr.

Edrych ymlaen

Gyda'r Rapid Rebels a Thîm Draig yn mynd i'r rowndiau terfynol cenedlaethol ddiwedd mis Mawrth, mae'r timau'n parhau i godi arian ac yn chwilio am nawdd i gefnogi eu taith.

Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar drwy dudalen Go Fund Me y tîm: https://gofund.me/975d462eb

Mae cyfleoedd i noddi a chael eich logo ar geir a dillad y tîm hefyd ar gael. ⁠Anfonwch e-bost at Emlyn Evans yng Ngholeg Meirion-Dwyfor am ragor o wybodaeth: evans12e@glln.ac.uk